- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
03 Chw 2023
Mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio yn dod yn haws yn Ne-ddwyrain Cymru gyda chynnydd parhaus tuag at ranbarth glanach, gwyrddach, sydd â chysylltiadau gwell.
Heddiw, mae manylion gwaith Uned Gyflawni Burns wedi'i gyhoeddi mewn adroddiad blynyddol diweddaraf (dydd Gwener 3 Chwefror).
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cynnydd gan Uned Gyflawni Burns wedi cynnwys dyfarnu grantiau teithio llesol Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol Caerdydd a Chasnewydd. Mae'r arian wedi galluogi agor dwy ganolfan storio beiciau diogel gyntaf Cymru, The Bike Lock yng Nghaerdydd a Spokesafe yng Nghasnewydd.
Mae gwaith prosiect seilwaith mawr yn cynnwys ymchwilio i ddatblygiadau ar gyfer opsiwn yr A48 a’r llwybr Beicio Cenedlaethol, yr NCN88. Mae hyn ynghyd â gwaith cynllunio ar gyfer gwelliannau i Ganol Dinas Casnewydd a Chylchfan Old Green. Mae gwelliannau i'r rheilffyrdd hefyd yn yr arfaeth ar gyfer prif reilffordd De Cymru.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth: “Mae hwn yn adroddiad addawol iawn sy’n dangos cynnydd gwirioneddol.
“Rydym i gyd yn canolbwyntio ar wneud y peth iawn, i wneud y peth hawdd ac mae hynny’n golygu annog mwy o bobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle’r car.
“Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â rhai o’r prosiectau a amlygwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ac wedi gweld dros fy hun sut y maent yn cynnig dewisiadau amgen gwirioneddol i ddefnyddio'r car.
“Dyma’r union fath o gynnydd sydd angen i ni ei weld wrth i ni anelu at Gymru gryfach, wyrddach a thecach.”
“Mae Uned Gyflawni Burns wedi’i sefydlu i sicrhau bod argymhellion yr Arglwydd Burns a Chomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn dod yn realiti,” meddai Simon Gibson CBE, Cadeirydd, Uned Gyflawni Burns.
“Rydym yn cynllunio ar gyfer gwelliannau sylweddol i sicrhau y gall pobl gerdded a beicio yn ddiogel a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy fel rhan o’u bywydau pob dydd, er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd a llygredd traffig yn yr ardal.”
Meddai Gareth Potter, Uwch Reolwr y Prosiect: “Mae'r adroddiad blynyddol yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn y mae'r bartneriaeth wedi'i gyflawni hyd yma. Mae Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol Casnewydd, Sir Fynwy a Chaerdydd ynghyd â Trafnidiaeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r weledigaeth a chydweithio ar gyfer dyfodol gwell.”
I gael rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ac Uned Cyflawni Burns, cliciwch yma. https://trc.cymru/prosiectau/uned-cyflenwi-burns