English icon English
Julie Morgan (1)

Bron i ddwy ran o dair o bobl yn anghytuno â chosbi plant yn gorfforol

Almost two thirds of people disagree with the physical punishment of children

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi croesawu canfyddiadau arolwg o’r ffordd mae agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru wedi newid ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd

Mae data a gyhoeddwyd heddiw [9 Chwefror 2023] yn rhoi cipolwg ar safbwyntiau o ddechrau 2022, ychydig cyn i’r ddeddf ddod i rym.

Mae’r cipolwg hwn yn dangos bod 62% o bobl yn anghytuno ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn o’i gymharu â 53% o’r bobl a holwyd yn 2021. Mae’r ffigur yn uwch ar gyfer rhieni/gofalwyr plant o dan saith oed, sef 71%.

Canfu’r adroddiad hefyd fod cynnydd wedi bod yn lefel yr ymwybyddiaeth o Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), a’r gefnogaeth iddi, ers 2018. Dywedodd 59% o’r ymatebwyr eu bod o blaid y newid yn y gyfraith o’i gymharu â 38% yn 2018.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Wrth inni agosáu at flwyddyn ers i gosbi’n gorfforol ddod yn anghyfreithlon yng Nghymru, mae’n galonogol iawn gweld y newid mewn agweddau ymhlith rhieni.

“Mae’r oes wedi newid, magu plant mewn modd cadarnhaol a di-drais yw’r hyn y mae’r rhan fwyaf o rieni’n anelu ato heddiw. Mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o’r ffaith bod cosbi plentyn yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru, yn ogystal â hynny roedd 62% o bobl yn anghytuno ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn.

“Fodd bynnag, er bod y gyfraith wedi newid, ac mae’r ffigyrau hyn yn dangos ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir, rydym yn gwybod bod gennym waith i’w wneud o hyd. Nid ydym yn llaesu dwylo o ran addysgu a chefnogi rhieni. Magu plant mewn modd cadarnhaol yw ein ffocws o hyd ac rwy’n gobeithio gweld datblygiadau cadarnhaol pellach ledled Cymru wrth i ragor o becynnau magu plant gael eu darparu i rieni.”

“Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, bydd mwy a mwy o blant a theuluoedd yn gweld budd y newid pwysig hwn yn y gyfraith a’r gefnogaeth mae wedi’i rhoi i hawliau plant yng Nghymru.”

DIWEDD 

Nodiadau i olygyddion

 

Notes

Early data was also published today on the number of people referred by the police to the Out of Court Parenting Support scheme during its first six months of operation. The findings show all 55 referrals to the scheme took up the offer of parenting support, with fewer than 5 prosecutions.

Public Attitudes to Physical Punishment of Children: Wave 4 and 5 surveys, can be found here: 

The Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Act 2020 (the Act) received Royal Assent in March 2020 and after a two-year implementation period, came into force on 21 March 2022. The overarching objective of the legislation is to help protect children’s rights by prohibiting the use of physical punishment against children, through the removal of the defence of reasonable punishment.