English icon English
20200207 Dydd Miwsig  Cymru Thallo SimonAyre-2945-2

Dathlu Dydd Miwsig Cymru: £100,000 ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg ar lawr gwlad

Celebrating Dydd Miwsig Cymru: £100,000 for grassroots Welsh language music

Wrth i gigs a digwyddiadau gael eu cynnal ar draws y wlad ar wythfed Dydd Miwsig blynyddol Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol fel bod pobl yn mwynhau hyd yn oed mwy o gerddoriaeth.

Nod y diwrnod yw dod â phobl ynghyd i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg a’r artistiaid sy’n creu argraff yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Eleni, rydym yn hoelio sylw ar gerddoriaeth yn ein cymunedau, gyda gigs yn cael eu cynnal mewn lleoliadau bach fel tafarndai sy’n eiddo i gymunedau.

Bydd y cyllid ychwanegol yn creu cynllun grant i ddod â phobl at ei gilydd, gyda’r arian yn targedu cerddoriaeth ar lawr gwlad, hyrwyddwyr lleol, a lleoliadau bach. Bydd y cymorth hwn yn helpu mwy o bobl i gynnal gigs yn eu cymunedau lleol, gan wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i fwynhau cerddoriaeth o Gymru ac i ddefnyddio’u Cymraeg.

Bydd y cynllun grant yn hoelio sylw ar ddatblygu sgiliau a gallu cymunedau i gynnal digwyddiadau cerddoriaeth byw. Bydd mentora a rhannu sgiliau yn elfennau allweddol o’r cynllun. Bydd rhagor o fanylion am sut gall cymunedau elwa ar y cynllun grant yn cael eu rhannu dros y misoedd nesaf.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Dydd Miwsig Cymru hapus! Mae’r Gymraeg yn perthyn inni i gyd; dylai pawb yng Nghymru gael cyfle i’w defnyddio ac i gael blas ar hyfrydwch cerddoriaeth Gymraeg. Mae’r cyllid hwn yn bwysig i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu dod ynghyd, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg yn eu hardal leol.”

Ar Ddydd Miwsig Cymru, caiff gigs lleol eu cynnal mewn tafarndai ar draws Cymru. Bydd hyn yn cynnwys perfformiad arbennig gan Dafydd Iwan yn yr Iorweth Arms. Dywedodd un o’r cyfarwyddwyr gwirfoddol, Neville Evans:

"Mae unig dafarn gymunedol Ynys Môn, yr Iorwerth Arms, yn hynod falch i fod yn rhan o Ddydd Miwsig Cymru. Bydd Dafydd Iwan a'r Band a chantores ifanc leol, Meryl Elin, yn diddanu cynulleidfa o dros 200, gyda'r holl docynnau wedi gwerthu allan o fewn diwrnod a hanner. Mae pawb yn edrych mlaen yn fawr at y gig yma!"

Mae Lois Elis Roberts yn aelod pwyllgor Tafarn y Fic, tafarn bentref gymunedol gydweithredol hynaf Ewrop a agorodd ei drysau ym 1988. Bydd y dathliadau yn parhau yno ddydd Sadwrn gyda Meinir Gwilym yn perfformio.

Dywedodd: “Braf yw cael croesawu Meinir Gwilym i Dafarn y Fic, Llithfaen yn syth ar ôl gêm rygbi Cymru v Yr Alban. Bydd Meinir yn diddanu pawb yn rhad ac am ddim fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru. Edrychwn ymlaen at gael estyn croeso cynnes i bawb o bob oed i fwynhau noson yng nghwmni Meinir. Dewch yn llu!”