- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
18 Ion 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig tocynnau trên advance rhatach i gwsmeriaid ar gyfer teithiau dros hanner can milltir fel ffordd arall o annog teithio mwy cynaliadwy yn 2023.
Gan lansio ar 16 Ionawr, gall cwsmeriaid gael 40% oddi ar docynnau trên advance ar gyfer teithiau rhwng 30 Ionawr a 5 Mawrth 2023.
Dyma’r ail gynnig gan Trafnidiaeth Cymru yn 2023, roedd y cynnig Multiflex cyntaf (a lansiwyd yr wythnos diwethaf) sef 12 tocyn am bris 6 wedi’i anelu at gymudwyr rheolaidd; mae’r cynnig ychwanegol hwn wedi’i anelu at y rheini sy’n bwriadu teithio am gyfnod hirach.
I helpu gyda’r argyfwng costau byw, mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynnig cyfle i gwsmeriaid rannu taliadau am docynnau dros dri rhandaliad.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym yn ymwybodol iawn bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb ar hyn o bryd a hoffem chwarae ein rhan i helpu ein cwsmeriaid lle gallwn ni. Rydym am annog mwy o bobl i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus a theithio’n gynaliadwy a dyma ffordd arall eto o wneud hynny.
“Fe wnaethom lansio ein cynnig Multiflex yr wythnos diwethaf ac mae’r cynnig ychwanegol hwn wedi’i anelu at y rhai sydd eisiau teithio ychydig ymhellach, efallai am seibiant neu i ymweld â ffrindiau neu berthnasau.”
Nodiadau i olygyddion
Mae'r cynnig hwn yn ddilys am 2 wythnos, ar gyfer teithiau dros 50 milltir gyda Tocynnau Advance. Rhaid defnyddio tocynnau a brynir ar gyfer teithio rhwng 30 Ionawr 2023 a 5 Mawrth 2023.
Daw'r cynnig i ben ar 29 Ionawr.