English icon English

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol cenedlaethol ar gyfer triniaethau arbennig megis tatŵio

Wales to introduce UK-first mandatory national licensing scheme for special procedures such as tattoos

Mae’r Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton, wedi cyhoeddi mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol cenedlaethol ar gyfer artistiaid tatŵio a’r rheini sy’n gweithio mewn busnesau tyllu’r corff, lliwio’r croen yn lled-barhaol, aciwbigo, ac electrolysis.

Nod y cynllun yw lleihau heintiau a chael gwared ar arferion gweithio gwael, drwy greu cofrestr gyhoeddus ganolog i ymarferwyr trwyddedig a safleoedd busnes sydd wedi eu cymeradwyo.

Dyma gam olaf y newidiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i wella’r safonau ar gyfer atal a rheoli heintiau yn y diwydiant.

Amcangyfrifir bod 3,516 o ymarferwyr yng Nghymru y bydd angen iddynt gael trwydded, ynghyd â 1,868 o safleoedd y bydd angen iddynt gael eu cymeradwyo o dan y cynllun trwyddedu gorfodol newydd. Cyfradd yr ymarferwyr hynny sy’n llwyddo wrth astudio’r wirfoddol i ennill dyfarniad lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau yw 95%.

Mae ymgynghoriad 12 wythnos wedi cael ei lansio i geisio sylwadau’r holl randdeiliaid, gan gynnwys ymarferwyr, awdurdodau lleol, a’r cyhoedd.

Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton:

“Mae’n hanfodol sicrhau bod safonau effeithiol ar gyfer hylendid a rheoli heintiau yn cael eu gweithredu gan bob ymarferydd triniaethau arbennig a busnesau gan fod y triniaethau hyn yn gallu achosi niwed os nad ydynt yn cael eu darparu’n iawn.

“Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn sicrhau bod y cleientiaid a’r ymarferwyr yn cael eu diogelu’n effeithiol bob tro. Dw i’n falch iawn o weld bod y newidiadau hyn yn cael eu croesawu gan y rhan fwyaf o ymarferwyr yng Nghymru, gyda llawer ohonyn nhw eisoes yn fodlon cadw at y safonau newydd yn wirfoddol.

“Rydyn ni’n awyddus i gael ymatebion i’r ymgynghoriad gan yr holl randdeiliaid, yn enwedig y rheini sy’n ymarferwyr hunangyflogedig a’r rheini sy’n gweithredu fel busnesau bach.”

Mae Ash Davies o Stronghold Tattoo yn Heol Siarl, Caerdydd yn ymarferydd tatŵio sydd wedi bod yn than o grŵp ymgysylltu Llywodraeth Cymru ar gyfer ymarferwyr ers 2018. Mae hefyd wedi ennill y Dyfarniad Lefel 2.

Dywedodd: “Mae’n wych mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cynllun trwyddedu cenedlaethol ar gyfer ein sector.

“Rydyn ni’n cydnabod ac yn croesawu’r gwaith mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ddatblygu’r cynllun gorfodol hwn i reoleiddio arferion yn y diwydiant, a hefyd datblygu cymhwyster pwrpasol sydd wedi ei reoleiddio ar gyfer atal a rheoli heintiau. Bydd hyn yn codi’r safonau ac mae hynny’n rhywbeth i’w groesawu.”

Mae Ffion Hughes yn ymarferydd lliwio’r croen yn lled-barhaol a thatŵio parafeddygol sy’n gweithio yn Little Wren Beauty & Aesthetics, yn Stryd y Pwll, Caernarfon. Cymerodd ran yn y cynadleddau ymgysylltu ar gyfer y cynllun newydd yn 2019.

Dywedodd: “Bydd y cynllun gorfodol yn golygu bod pob busnes cyfrifol yn cael ei drin yn yr un modd o fewn y diwydiant.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ymgysylltu â ni drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r ddeddfwriaeth hon, ac mae’n braf gweld bod ein hadborth wedi cael ei ystyried a’i ddefnyddio wrth lunio’r ymgynghoriad.”