- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
15 Rhag 2023
Bydd gorsaf reilffordd Mynwent y Crynwyr yn ailagor i deithwyr ddydd Llun 18 Rhagfyr 2023 yn dilyn gwaith uwchraddio seilwaith.
Fel rhan o brosiect Metro De Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi uwchraddio'r orsaf o un platfform i blatfform dwbl, wedi gosod pont droed gyda grisiau a ramp newydd sbon ynghyd â thrac rheilffordd ychwanegol.
Bydd y trac ychwanegol a'r rheilffordd ddwbl yn caniatáu i TrC redeg 4 trên yr awr o Ferthyr Tudful i Gaerdydd yn y dyfodol agos, wrth i'r gwaith o drydaneiddio'r llinell barhau.
Mae’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran TrC: “Rydym wedi gwneud gwaith helaeth yng ngorsaf Mynwent y Crynwyr fel rhan o'n prosiect Metro De Cymru ac rydym yn falch iawn o allu ailagor yr orsaf i'r cyhoedd.
“Rydym yn parhau i symud ymlaen i ddarparu Metro De Cymru ac mae hon yn garreg filltir allweddol arall i ni. Bydd ein trenau tram newydd sbon yn rhedeg ar y llinellau hyn yn fuan, gan ddarparu cludiant cyflymach, gwyrddach ac amlach i bobl de Cymru ."
“Hoffwn ddiolch i'n cwsmeriaid a'n cymdogion rheilffordd am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i ni barhau i gyflawni'r prosiect trawsnewid enfawr hwn.”
Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith yn adeiladu’r Metro yma https://trc.cymru/prosiectau/metro/adeiladu-ein-metro .