- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
14 Rhag 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dyfarnu contract gwerth £2.5 miliwn i Elite Clothing Solutions am bedair blynedd i wneud a darparu gwisgoedd staff.
Wedi'i leoli yng Nglynebwy, mae Elite Clothing Solutions yn fenter gymdeithasol sy'n cyflogi pobl leol, cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi ac yn hyfforddi pobl ag anableddau neu'r rhai sydd dan anfantais.
Gyda dros 2,000 o staff gweithredol angen gwisg ar gyfer y gwaith, bydd y contract hirdymor a ddyfernir gan TrC yn cefnogi'r economi gylchol yng Nghymru. Bydd hefyd yn helpu'r rhai sydd ag anfantais i ennill sgiliau galwedigaethol hanfodol a gwella eu lles cyffredinol.
Mae Elite wedi sefydlu consortiwm o fusnesau yng Nghymru i'w cefnogi yn y gadwyn gyflenwi sy’n cynnwys Brodwaith Cyf yn Llangefni, Menter Gwnïo Treorci yn y Rhondda a Fashion Enter yn y Drenewydd.
Dywedodd Andrea Wayman, Prif Swyddog Gweithredol y Fenter:
“Mae llwyddo i ennill y contract i wneud gwisgoedd staff Trafnidiaeth Cymru yn gyflawniad a hanner. Bydd y gwisgoedd gwaith hyn yn cael eu gwneud ar ffurf consortiwm yng Nghymru, popeth o'r gwaith dylunio a gweithgynhyrchu i frandio.
“Yn economaidd, mae'n cynnal ac yn creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi i alluogi cyflogaeth gynhwysol, ar gyfer pobl anabl a difreintiedig, gweithwyr hŷn, pobl ifanc a rhieni sengl.”
Dywedodd Scott Waddington, Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru:
“Hoffwn longyfarch Elite Clothing Solutions ar ennill y contract eithriadol o fuddiol hwn a fydd yn darparu hyd yn oed mwy o swyddi i bobl leol.
“Rydym yn gwella'r rhwydwaith trafnidiaeth ledled Cymru ac mae'n hanfodol ein bod, trwy ein buddsoddiad, yn darparu cyfleoedd a buddion i'r cymunedau lleol yr ydym yn eu gwasanaethu.
“Mae rhai o'n trenau newydd wedi'u gwneud yng Nghymru, gan bobl Cymru a bellach, mae’r un yn wir am y sefydliad sy’n gyfrifol am wneud gwisgoedd ein staff. Mae TrC yn sefydliad dielw ac mae'n wych cefnogi'r cydweithrediad hwn o fentrau cymdeithasol eraill a chael effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol."
Dywedodd Sarah Jane Waith, Pennaeth Cadwyn Gyflenwi Trafnidiaeth Cymru:
“Trwy ddull caffael cynaliadwy, rydym yn falch iawn o weithio gydag Elite a'u partneriaid consortiwm i gynyddu gwerth economaidd a chymdeithasol i Gymru ac ailfywiogi'r diwydiant tecstilau yng Nghymru”