- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
21 Rhag 2023
Bydd Rheilffordd Treherbert yn ailagor i deithwyr ym mis Chwefror 2024, yn dilyn gwaith uwchraddio enfawr fel rhan o brosiect Metro De Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a phartneriaid wedi cael gwared ar rai o'r seilwaith rheilffyrdd hynaf yng Nghymru, ac wedi eu ddisodli gyda system signalau fodern, newydd sbon gan gynnwys gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben a fydd yn trydaneiddio'r llinell yn y dyfodol agos.
Yn ogystal, mae tair dolen trac newydd wedi'u gosod a fydd yn caniatáu gwasanaethau mwy aml a gwnaed gwaith amrywiol yn y gorsafoedd gan gynnwys ymestyn platfformau ac adeiladu pontydd troed newydd.
Mae'r newidiadau seilwaith i gyd yn rhan o brosiect Metro De Cymru a fydd yn darparu gwasanaethau rheilffyrdd amlach, gwyrddach a gwell yn y rhanbarth.
Mae’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd.
Gan ddechrau fis Ionawr 2024, bydd gyrwyr TrC yn dechrau eu hyfforddiant ar y llinell hon sydd wedi'i huwchraddio, cynllun trac newydd a systemau signalau, yn ogystal â hyfforddiant pellach ar y trenau tram Metro newydd.
Gan y bydd trenau'n rhedeg ar y trac o fis Ionawr 2024 ymlaen, mae TrC yn atgoffa pobl na ddylai unrhyw bersonél sydd heb ganiatâd dresmasu ar y rheilffordd gan ei bod yn hynod o beryglus ac anghyfreithlon.
Bydd y gwasanaethau bws yn lle trên yn parhau i fod ar waith nes bydd y trenau teithwyr yn dechrau rhedeg eto o fis Chwefror 2024.
O fis Chwefror 2024, bydd TrC yn ailgyflwyno dau drên yr awr ar linell Treherbert, gyda disgwyl y bydd y trenau Metro newydd sbon yn dechrau ar eu gwaith yn Haf 2024.
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Dyma garreg filltir bwysig arall wrth i ni barhau i gyflawni prosiect Metro De Cymru ar gyfer pobl De Cymru. Rydym wedi uwchraddio rheilffordd Fictoraidd i linell drydanol fodern, ar gyfer yr 21ain ganrif a fydd yn rhedeg trenau tram newydd sbon yn y dyfodol agos.
“Hoffwn ddiolch i'n holl gwsmeriaid a'n cymdogion rheilffordd am eu cefnogaeth a'u hamynedd yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid a dymuno Nadolig Llawen iddynt i gyd. Yn 2024, bydd pobl yn dechrau gweld y manteision o lawer o'r gwaith sydd wedi'i wneud."
Nodiadau i olygyddion
Gallwch ddysgu mwy am
Drawsnewid lein Treherbert line yn https://trc.cymru/prosiectau/metro/metro-de-cymru/trawsnewid-lein-treherbert
Ein gweledigaeth ar gyfer Metro De Cymru yn https://trc.cymru/prosiectau/metro