English icon English

Ymateb y Gweinidog Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru – Hydref a Thachwedd 2023

Health Minister response to latest NHS Wales performance data – October and November 2023

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

"Bob dydd mae ein staff arwrol yn y Gwasanaeth Iechyd yn darparu gwasanaethau o safon o dan y lefelau uchaf erioed o alw.

"Er gwaethaf lefelau uchel cynyddol o alw am ein gwasanaethau canser, rwy'n falch o weld bod perfformiad yn erbyn y targed canser wedi cynyddu y mis hwn i 56 y cant, ochr yn ochr â'r nifer mwyaf erioed o bobl yn cael gwybod nad oedd canser ganddynt ym mis Hydref. 

"Dechreuodd bron i 2,000 o bobl driniaeth ar gyfer canser y mis hwn, cynnydd o 8 y cant o gymharu â'r un mis y llynedd a'r ffigur ail uchaf ers dechrau cadw cofnodion.

"Rydym wedi rhoi pwyslais clir ar drin y cleifion hynny sydd ag angen brys a'r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf. Rydym wedi parhau i weld nifer y cleifion sy'n aros dros ddwy flynedd yn gostwng – i lawr 64 y cant ers yr uchafbwynt.

"Gofynnais yn flaenorol i fyrddau iechyd sicrhau y bydd 97 y cant o'r rhai sy'n aros ar ddiwedd mis Rhagfyr 2023 yn aros llai na 104 o wythnosau. Roeddem yn agos iawn at gyflawni hynny ym mis Hydref (96.6 y cant) ac roedd pedwar bwrdd iechyd eisoes wedi cyrraedd y targed hwnnw.

"Yn ystod y 3 blynedd diwethaf, mae'r amser aros cyfartalog ar gyfer cleifion sy'n aros am ofal a gynlluniwyd wedi'i leihau draean. Tua 20 wythnos yw'r amser aros canolrifol erbyn hyn ac mae'r ffigur hwnnw nawr yn sefydlog.

"Mae'r galw am wasanaethau gofal mewn argyfwng yn parhau i fod yn sylweddol; mae'r gwasanaeth ambiwlans bellach yn delio â thua 80 y cant yn fwy o alwadau coch y dydd nag yr oedd cyn y pandemig. Y nifer cyfartalog o alwadau coch y dydd a wnaed ym mis Tachwedd oedd y trydydd uchaf erioed.

"Er hyn, cafodd 75 y cant o'r galwadau ymateb o fewn 13 munud. Yn ogystal, bu cynnydd o'r mis diwethaf yng nghyfran y galwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn y targed 8 munud.

"Mae pobl hefyd yn cael eu gweld yn gyflymach pan fyddan nhw'n cyrraedd adrannau achosion brys; mae'r amser cyfartalog rhwng brysbennu a chyrraedd wedi'i leihau i 18 munud, yr isaf ers mis Mawrth 2021. Gwnaeth perfformiad hefyd wella yn erbyn y targed pedair awr a'r targed deuddeg awr ar gyfer adrannau achosion brys.

"Rydym wedi dysgu o'r gaeaf diwethaf a rhoi nifer o fesurau ar waith i atgyfnerthu eleni. Mae'r rhain yn cynnwys 119 yn fwy o staff ambiwlans na'r llynedd, a mwy o staff ar gael i ymateb i alwadau i wasanaeth GIG 111 Cymru – sy'n parhau i helpu degau o filoedd o bobl i gael cyngor iechyd brys, ar-lein a dros y ffôn, 24 awr y dydd saith diwrnod yr wythnos.

"Mae miloedd o bobl y mis hefyd yn cael gofal yn y gymuned ac i ffwrdd o Adrannau Achosion Brys, mewn Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys a Gwasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod. Mae nifer y bobl sy'n cael ymgyngoriadau ar gyfer anhwylderau cyffredin drwy dimau fferylliaeth gymunedol hefyd wedi cynyddu bum gwaith.

"Mae'n siomedig gweld rhestrau aros cyffredinol yn cyrraedd eu lefelau uchaf ers dechrau cadw cofnodion. Mae hynny oherwydd nifer y bobl sy'n ymuno â'r rhestrau aros. Ond dros y 12 mis diwethaf, nid yw rhestrau aros yng Nghymru ond wedi cynyddu 1 y cant o gymharu â 7 y cant yn Lloegr."