- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
09 Ion 2024
Mae’r flwyddyn newydd yn gyfle perffaith i fabwysiadu arferion newydd, yn enwedig y rheini sydd o fudd i’n hiechyd a’n lles.
O ddefnyddio’r beic ar gyfer teithiau byr, cynllunio gwyliau gartref a chofio defnyddio cerdyn rheilffordd wrth deithio, dyma rhai o’n syniadau gorau o ran yr hyn i ddweud ‘helo’ wrthynt a’r hyn i ddweud ‘hwyl fawr’ wrthynt yn 2024.
Helo
Cerdded yw’r gorau
Camwch i mewn i’r flwyddyn newydd yn llawen ac yn llon. O grwydro glan y môr i ymdeithio’r mynyddoedd, gwisgwch eich esgidiau cerdded a mwynhewch yr holl ryfeddodau sydd gan Gymru i’w cynnig.
Angen ysbrydoliaeth i ddewis llwybr? Edrychwch ar y llwybrau a grëwyd gan Ramblers Cymru sy’n cysylltu â’n gorsafoedd, neu dewiswch o fwy na 100 milltir o lwybrau cerdded sydd ar yr ap GoJauntly.
Gwyliau gartref
Mae gan Gymru a’r gororau sawl lle prydferth i ymweld â nhw yn 2024.
Ewch ar y trên i gael hufen iâ yn Ninbych y Pysgod, i’r Amwythig i ddysgu am ei hanes cyfoethog neu mwynhewch olygfeydd prydferth ar daith trên i Gaer am benwythnos o fwyd da.
Gan ddefnyddio Tocynnau Advance, gallwch arbed hyd at hanner pris ar rai teithiau trên dros bellter hir pan rydych yn archebu tocyn hyd at 6 wythnos ymlaen llaw* - y cyfle perffaith i gynllunio’ch taith nesaf.
Dwy olwyn yn lle pedair.
Gall ddefnyddio’r car ar gyfer teithiau byr fod yn ddeniadol ond mae hi’n amser chwilio am yr hen helmed ‘na a neidio ar eich beic. Mae beicio yn ffordd wych o arbed arian a gofalu am yr amgylchedd yn ogystal â’ch lles.
Mae rhai o’n gwasanaethau hefyd yn caniatáu ichi ddod a’ch beiciau ar y trên. Fel hynny, gallwch deithio hyd yn oed ymhellach ar feic.
Lawrlwythwch ap TrC i arbed lle ar gyfer eich beic pan rydych yn prynu’ch tocyn.
Hwyl fawr
Teithio yn y car
Ar gyfartaledd gwnaeth bobl ledled y DU dreulio 80 awr mewn traffig yn 2022*. Ffarweliwch â ffioedd parcio a thagfeydd traffig a mwynhewch eich bore unwaith eto drwy ddal y trên i’r gwaith.
Gyda WiFi a phwyntiau gwefru ar y rhan fwyaf o’n gwasanaethau, gallwch achub y blaen ar eich dydd, dal i fyny ar eich hoff sioe neu bodlediad, mwynhau llyfr da neu’n syml, mwynhau’r olygfa.
*Inrix 2022 Global Traffic Scorecard
Prynu tocyn heb gerdyn rheilffordd
Efallai roeddech yn mynd i ymchwilio i hyn yn 2023 ond ddigwyddodd e ddim… Gadewch i 2024 fod y flwyddyn lle rydych yn arbed arian ar docynnau teithio. Mae yna sawl cerdyn rheilffordd ar gael sy’n caniatáu i chi deithio ar gyfradd ostyngedig ar hyd y rhwydwaith – yr esgus perffaith i archebu mwy o docynnau trên yn 2024.
Rydym yn cynnig ystod o gardiau rheilffordd unigryw i TrC, er enghraifft cerdyn rheilffordd Calon Cymru a cherdyn rheilffordd y Cambrian. Mae cardiau rheilffordd cenedlaethol hefyd ar gael sy’n meddwl bod hyd yn oed mwy o gyfleoedd i arbed arian ar eich antur trên nesaf.
Ewch i’n tudalen cardiau rheilffordd i ddarganfod mwy am y cynigion y gallwch fanteisio arnynt. Peidiwch ag anghofio y bydd yn rhaid i chi gyflwyno’ch cerdyn rheilffordd gyda’ch tocyn trên wrth deithio.
Gyrru pellter hir
Dywedwch ‘hwyl fawr’ wrth fod wrth yr olwyn am oriau maith a ‘helo’ i wasanaeth bws TrawsCymru dros bellter hir – yr unig beth fydd angen ichi feddwl amdani fydd pa lyfr i’w ddarllen neu ba raglen deledu i ddal i fyny gyda hi.
Archwiliwch brydferthwch Aberhonddu, teithiwch i orllewin Cymru neu ewch ar daith i’r dref glan môr, Aberystwyth.
Mae’r gwasanaeth T1 rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn cynnig bysiau trydan o’r radd flaenaf. Ymysg y cyfleusterau, mae gwefru ffôn symudol diwifr, golau darllen, bachau cot a seddi cyfforddus er mwyn gwella’ch taith.
Cynlluniwch eich taith gan ddefnyddio ap neu wefan TrawsCymru.
Blwyddyn newydd, teithiau newydd. Cynlluniwch eich teithiau ar gyfer 2024 gan ddefnyddio ap neu wefan TrC.