- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
02 Tach 2023
Mae amserlenni newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau T2 a T3 TrawsCymru wedi cael eu cyhoeddi gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel rhan o gyfres o newidiadau i’r ddau wasanaeth sydd â’r nod o wella cysylltiadau ar draws rhwydwaith TrawsCymru er mwyn diwallu anghenion teithwyr.
Bydd yr amserlenni newydd yn dod i rym ddydd Sul 5 Tachwedd law yn llaw â phrisiau newydd a gwasanaethau bysiau ychwanegol sy'n rhedeg yn fwy aml ar lwybrau T2 a T3.
Mae esboniad llawn o’r newidiadau i’r ddau wasanaeth ar gael isod.
Newidiadau i wasanaeth T2 rhwng Bangor ac Aberystwyth:
- Bydd gwasanaeth T2 yn cael ei gyfuno â’r X28, a fydd yn cael ei ail-frandio fel T28 maes o law, er mwyn cynnig gwasanaeth bob awr rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
- Bydd gwasanaethau T2 a T28 yn cysylltu â’r T1 yn Aberystwyth i’r ddau gyfeiriad.
- Byddwn yn cyflwyno tocynnau sy'n cynnig gwell gwerth am arian ar wasanaethau T2 a T28, gan ddechrau o £1.25.
- Bydd tocynnau 1Bws dyddiol ac wythnosol yn ddilys ar y ddau wasanaeth.
- Bydd T2 nawr yn gwasanaethu Cricieth yn lle Garndolbenmaen a fydd yn cael ei wasanaethu gan T22 newydd a fydd yn ymuno â’r gwasanaeth yn fuan.
- Rhwng T2 a T22, cynigir gwasanaeth bob awr rhwng Caernarfon a Phorthmadog.
- Bydd gwasanaeth amlach bob 2 awr ar gyfer y T2 ar ddydd Sul yn cynnig mwy o opsiynau i gwsmeriaid allu teithio.
Mae’r T2 yn cysylltu â’r T3 (Y Bermo i Wrecsam) yn Nolgellau.
Newidiadau i wasanaeth T3 rhwng Y Bermo a Wrecsam:
- Caiff y gwasanaeth ei rannu’n ddau – T3 a T3C.
- Bydd y T3C yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng Llanuwchllyn, y Bala, Llandderfel, Llandrillo, Cynwyd a Chorwen.
- Gall teithwyr o Lanuwchllyn, Llandderfel, Llandrillo a Chynwyd gysylltu â gwasanaeth T3 yng Nghorwen lle bydd cysylltiad pum munud i’r ddau gyfeiriad i Wrecsam.
- Byddwn yn cyflwyno tocynnau sy'n cynnig gwell gwerth am arian ar T3 a T3C, gan ddechrau o £1.25.
- Bydd tocynnau trwodd ar gael i alluogi teithio di-dor rhwng y T3 a’r T3C.
Mae’r T10 (Bangor i Gorwen) yn cysylltu â’r T3 yng Nghorwen i deithio i mewn ac allan o Wrecsam. Mae’r T8 (Corwen i Gaer drwy Ruthun a’r Wyddgrug) yn cysylltu â’r T3 yng Nghorwen i deithio i mewn ac allan o Gaer. Mae’r T3 yn cysylltu â’r T2 yn Nolgellau.