- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
03 Tach 2023
Mae James Price, Prif Swyddog Gweithredol TrC wedi arwyddo addewid Cymru Wrth-hiliol ar ran Trafnidiaeth Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o ymuno â sefydliadau Cymreig eraill sydd eisoes wedi arwyddo’r addewid i sefyll yn erbyn hiliaeth a helpu i greu amgylchedd diogel, gwerthfawr a chynhwysol yma yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynllun gweithredu i nodi'r camau pendant a fydd yn mynd i'r afael ag anoddefgarwch hiliol, ethnig a chrefyddol sy'n systemig ac yn sefydliadol, er mwyn sicrhau newid gwirioneddol dros y 10 mlynedd nesaf.
Dyma addewid y cynllun -
- Rwy'n ymrwymo i hyrwyddo dim goddefgarwch i hiliaeth yng Nghymru, sy'n golygu:
- Byddaf yn sefyll yn erbyn hiliaeth ac yn hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal i bawb.
- Ni fyddaf yn goddef rhagfarn hiliol, gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, cam-drin na thrais yn erbyn unrhyw unigolyn.
- Byddaf yn sefyll mewn undod, yn dod at ein gilydd, ac yn dweud na wrth hiliaeth, yn ei holl ffurfiau.
- Byddaf yn hyrwyddo cysylltiadau hil da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol.
- Byddaf yn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a theg i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Yn Trafnidiaeth Cymru rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Byddwn yn sefyll mewn undod yn erbyn hiliaeth a byddwn yn parhau i ymdrechu tuag at ddiwylliant sy'n amrywiol a chynhwysol”
Rydym yn falch o gefnogi Llywodraeth Cymru i sefydlu gweithgor newydd i annog mwy o fenywod a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried gyrfa ym maes trafnidiaeth.
Bwrwch olwg ar ein swyddi gwag: https://trc.cymru/gwybodaeth/ceiswyr-swyddi/ein-swyddi-gwag