English icon English

Cyhoeddi pecyn cymorth ar gyfer pobl y mae’r penderfyniad i gau Pont Menai wedi effeithio arnynt

Support package announced for people affected by the closure of Menai Suspension Bridge

Heddiw (dydd Mercher, 30 Tachwedd), bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters yn ymweld â Phont Menai lle y bydd yn cyhoeddi pecyn cymorth i leddfu’r pwysau trafnidiaeth ar bobl sy’n teithio i Ynys Môn ac oddi yno.

Bydd y Dirprwy Weinidog, sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, hefyd yn cyfarfod â chynrychiolwyr o gynghorau Gwynedd a Môn i drafod gwaith cynnal a chadw pwysig.

Mae'r pecyn newydd a grëwyd mewn partneriaeth ag UK Highways A55 Ltd a Chynghorau Sir Ynys Môn a Gwynedd yn cynnwys ystod helaeth o fesurau, gan gynnwys parcio am ddim, datrysiadau i wella llif y traffig, mynediad at lwybrau teithio llesol a safleoedd bws ychwanegol i gefnogi’r bobl y mae’r penderfyniad i gau’r bont yn effeithio arnynt.

O 1 Rhagfyr ymlaen bydd modd parcio am ddim mewn meysydd parcio yn nhref Porthaethwy ac yn y ddau safle parcio a rhannu drwy gydol mis Rhagfyr ac Ionawr. Caiff y cymorth ymarferol hwn ei ddarparu i helpu busnesau lleol sy’n dibynnu ar fasnach dros gyfnod y Nadolig ac i leihau nifer y cerbydau sy'n dymuno croesi A55 Pont Britannia. Bydd hefyd yn gwella amser teithio i’r rheini sydd am deithio i Ynys Môn ac oddi yno. Cymerwyd y camau hyn yn ogystal â gosod arwyddion sydd eisoes yn eu lle.

I gynorthwyo gyda cholli gwasanaethau bws ar yr ynys ar ôl i'r bont gau, mae'r cyngor wedi darparu arosfannau ychwanegol yn nes at Bont Menai er mwyn caniatáu i'r cyhoedd deithio ar fws a cherdded dros y bont yn lle eu bod o bosib yn aros mewn traffig ar yr A55. Mae’r cyngor hefyd yn defnyddio trafnidiaeth gymunedol i helpu'r cymunedau mwy gwledig y mae’r penderfyniad i gau’r bont wedi effeithio arnynt.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn ystyried llwybrau teithio llesol er mwyn caniatáu i feicwyr ddefnyddio 'beiciau llogi' i bobl o bosib gael eu defnyddio ym Mhorthaethwy a Bangor.

Datblygwyd cynllun wrth gefn y gwasanaethau brys i ddefnyddio Pont Menai pan fydd yr A55 Pont Britannia ar gau a gosodwyd y gatiau ar y Bont er mwyn caniatáu mynediad brys ar draws y strwythur yn ystod digwyddiadau eithafol iawn yr wythnos diwethaf.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:

"Rydym yn deall rhwystredigaethau pobl a'r anghyfleustra a'r aflonyddwch a achosir i'r gymuned leol.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda UK Highways A55 Ltd ac awdurdodau lleol i gyflwyno'r mesurau hyn i helpu i leddfu pryderon pobl a sicrhau cyn lleied â phosib o aflonyddwch wrth i'r gwaith hanfodol barhau ar Bont Menai."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi,

"Rydym yn falch o weld y mesurau cymorth hyn yn cael eu cyflwyno heddiw. Ers cau Pont Menai rydym wedi bod yn gryf o blaid rhoi cymorth i fusnesau lleol.

"Mae Pont Menai yn borth hanfodol i ganol y dref. Rydym yn obeithiol y bydd y set hon o fesurau yn mynd rhywfaint o'r ffordd i helpu i gefnogi busnesau lleol sydd wedi nodi gostyngiad mewn masnach ers cau'r bont.

"Rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi'r canlyniadau o arolwg ar-lein diweddar sydd wedi'i rannu gyda busnesau lleol. Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i barhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru o ran cymorth pellach, os oes angen, drwy gydol y cyfnod cau. Mae Porthaethwy ar agor yn llwyr i fusnesau ac rwy'n annog trigolion ac ymwelwyr i ymweld â'r dref a chefnogi busnesau lleol yn yr ardal."