- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
22 Tach 2022
Mae teithwyr rheilffordd yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau’n ofalus ddydd Sadwrn yma (26 Tachwedd) gan y bydd gweithredu diwydiannol yn effeithio ar wasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o'r gweithredu diwydiannol ddydd Sadwrn, ond gan y bydd undeb gyrwyr trenau ASLEF a 12 o weithredwyr eraill ar streic, bydd fwy na thebyg y bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar draws y rhwydwaith yn eithriadol o brysur.
Gyda gêm rygbi Cymru yn erbyn Awstralia yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, cynghorir cwsmeriaid mewn rhai ardaloedd i deithio ar y trên dim ond os oes angen.
Sadwrn 26 Tachwedd
Disgwylir y bydd gwasanaethau rheilffordd TrC yn Ne Cymru rhwng Caerfyrddin a Chasnewydd yn brysur iawn oherwydd na fydd unrhyw wasanaethau Great Western Railway (GWR) yn rhedeg i mewn/allan o Gymru ddydd Sadwrn 26 Tachwedd.
Er mwyn creu mwy o le ar brif reilffordd De Cymru bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau coets rhwng Abertawe – Caerdydd a Chasnewydd – Caerdydd. I brynu tocyn coets, ewch i
Disgwylir y bydd y gwasanaethau rheilffordd rhwng Caerdydd a Cheltenham, Amwythig a Wolverhampton (Gorsaf Birmingham New Street ar gau, felly bydd gwasanaethau TrC yn dechrau/gorffen yn Wolverhampton) a gwasanaethau ar hyd Arfordir Gogledd Cymru yn brysur iawn, ac ni fydd unrhyw un o wasanaethau CrossCountry, West Midlands Trains ac Avanti West Coast yn rhedeg o gwbl ddydd Sadwrn 26 Tachwedd.
Mae TrC yn cynghori cwsmeriaid i beidio â theithio oni bai bod eu taith yn hanfodol rhwng:
- Caerfyrddin a Chasnewydd
- Caerdydd a Cheltenham
- Amwythig a Wolverhampton (Gorsaf Birmingham New Street ar gau)
- Arfordir Gogledd Cymru
Cynghorir cwsmeriaid yn gryf i wirio cyn teithio'r wybodaeth deithio ddiweddaraf ar wefan TrC, ap ffôn neu ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Taith coets ddwyffordd Big Green Coach
Os nad ydych yn teithio gyda TrC, bydd gwasanaeth coets ar wahân ar gael. Ar y cyd â chwmni Big Green Coach, y cwmni teithio i ddigwyddiadau mwyaf yn y DU, bydd Undeb Rygbi Cymru yn darparu gwasanaethau coets arbennig i gefnogwyr sy'n teithio i Gaerdydd ar gyfer gêm Cymru v Awstralia.
Mae teithiau bws dwyffordd ar gael o bedwar lleoliad gan gynnwys Bryste, Swindon, Reading a Llundain (King's Cross). Mae pris tocyn coets dwyffordd yn dechrau o £33, ac mae'r holl goetsis wedi'u hamserlennu i gyrraedd mewn digon o bryd cyn y gêm a byddant yn mynd â'r cefnogwyr adref eto, yn dilyn y chwiban olaf.
Gellir prynu tocynnau ar-lein yn: https://www.biggreencoach.co.uk/events/wales-v-australia-coach-travel-to-principality-stadium-cardiff