English icon English

Mae’n hanfodol bod ffermwyr tenant yn cael pob cyfle teg i ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy” – Lesley Griffiths

“Fair access to Sustainable Farming Scheme for tenant farmers is vital for its success” – Lesley Griffiths

Mae’r Gweithgor Tenantiaethau newydd wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf gyda’r nod o sicrhau bod Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) Llywodraeth Cymru’n agored ac yn addas i ffermwyr tenant ledled Cymru

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynigion manylaf eto am ddyfodol ei chymorth i ffermwyr.

Amcan yr SFS yw helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ac i leihau eu hôl troed carbon a gweithredu er lles natur.  Elfen bwysig arall yw bod y cynllun yn agored i bob ffermwr allu bod yn rhan ohono.

Mae nifer o gyrff perthnasol yn aelodau o’r Gweithgor Tenantiaethau newydd, gan gynnwys Cymdeithas y Ffermwyr Tenant, CLA, NFU Cymru a’r FUW. 

Bydd yn ystyried agweddau ar gynigion yr SFS gan gynnwys hyd contractau ac ymarferoldeb y Gweithredoedd Sylfaenol y bydd disgwyl i bob ffermwr, gan gynnwys tenantiaid, eu cynnal, yn ogystal ag unrhyw broblemau eraill a allai effeithio ar allu ffermwyr tenant i ymuno â’r cynllun.

Bydd canfyddiadau’r Gweithgor Tenantiaethau’n cyfrannu at yr ymgynghoriad terfynol ar y cynllun yn 2023. Bydd ffermwyr yn dechrau symud i’r SFS yn 2025.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths: “Mae tenantiaid yn ffermio cyfran arwyddocaol o’r tir ffermio yng Nghymru ac os na fydd yr SFS yn gweithio er lles y sector tenantiaid, yna nid yw’n gweithio o gwbl.

“Rhaid i ni gadw ffermwyr ar y tir a dylai pob ffermwr allu ymuno â’r cynllun.

“Trwy gydweithio â’r gweithgor newydd rydym wedi’i sefydlu, gallwn wneud yn siŵr fod y cynllun yn agored ac yn addas i ffermwyr tenant ledled Cymru.

“Dw i’n ddiolchgar i’n rhanddeiliaid am eu help i ddatblygu cynllun fydd yn helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a thaclo’r argyfyngau hinsawdd a natur.”

Mae’r cynigion bras yn cynnwys cyfres o weithredoedd wedi’u rhannu’n dair haen:

Yr haen gyntaf yw’r Gweithredoedd Sylfaenol – gweithredoedd y dylai pob fferm allu eu cynnal er mwyn cael Taliad Sylfaenol.  Rhag bod yn rhwystr i ymuno â’r cynllun, mae’r Gweithredoedd Sylfaenol wedi’u cynllunio fel bod ffermwyr â chytundebau tenantiaeth yn gallu cymryd rhan.

Mae ffermwyr sydd am fynd ymhellach a chael taliadau ychwanegol, yn gallu dewis cynnal Gweithredoedd Opsiynol gan ddibynnu ar beth sy’n addas i’r fferm. Bydd gweithredoedd na fydd modd i ffermwyr ar denantiaethau tymor byr neu gyfyngedig eu cynnal yn cael eu cynnig fel rhai opsiynol oni bai bod eithriadau addas i ffermwyr tenant.

Bydd cyfle hefyd i ffermwyr weithio gyda’i gilydd ar Weithredoedd Cydweithredol ar lefel leol neu ranbarth i sicrhau canlyniadau na all fferm unigol eu cyflawni.

Caiff gweithgorau eu sefydlu hefyd i ystyried themâu eraill yn yr SFS, fel tir comin a ffermwyr newydd. I weld popeth am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, cliciwch yma.