Skip to main content

Have your say on proposals to improve Holyhead station

08 Rhag 2022

Ydych chi'n byw yng Nghaergybi, yn berchennog busnes neu'n ymwelydd?  Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) am drawsnewid gorsaf Caergybi yn ganolbwynt trafnidiaeth lleol ac mae angen eich adborth chi ar y cynigion.

Mae’r opsiynau ar gyfer gwella’r orsaf yn cwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys arwyddion, cyfleusterau teithwyr, teithio llesol, integreiddio rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth, sut mae'r orsaf yn edrych a sut deimlad sydd yno a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori opsiynau ar 10 Tachwedd ac mae’n parhau tan 22 Rhagfyr 2022.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynigion a chwblhau ffurflen adborth ar-lein yma: trc/dweudeichdweud.trc.cymru/.

Gallwch hefyd gyrchu'r wybodaeth yn Gymraeg  yma. Os byddai'n well gennych gael ffurflen adborth papur yn Gymraeg neu Saesneg, maent ar gael yn swyddfa docynnau gorsaf Caergybi (Gorsaf Caergybi, Ffordd Llundain, Caergybi LL65 2BT) neu Neuadd y Farchnad Caergybi (Neuadd y Farchnad Caergybi, Stryd Stanley, Caergybi, LL65 1HH).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth, cysylltwch â ni:

  • E-bost:   holyheadstation@mottmac.com   
  • Ffôn: 01492 588 327 (sylwer mae hon yn llinell ffôn safonol gyda chostau arferol)
  • Yn y post: YMGYNGHORIAD GORSAF CAERGYBI, Rhadbost (dim angen stamp)

Megis dechrau y mae’r cynllun ar hyn o bryd felly nid oes unrhyw gynlluniau manwl ar gyfer unrhyw un o’r opsiynau arfaethedig ac nid yw Trafnidiaeth Cymru wedi ceisio nac wedi sicrhau unrhyw gyllid ar gyfer y cynllun hyd yn hyn.  Syniadau cychwynnol yn unig yw'r opsiynau a gyflwynir.  Bydd eich adborth yn helpu Trafnidiaeth Cymru i lunio achos dros gyllid a bydd yn ei helpu i ddewis yr opsiwn(opsiynau) a ffefrir i’w symud ymlaen os dyrennir cyllid.