- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
11 Ion 2023
Yn fuan, bydd y gwaith yn dechrau ar adeiladu gorsaf reilffordd newydd yn Butetown ac i ailddatblygu gorsaf Bae Caerdydd fel rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf sydd wedi digwydd i drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal ers cenhedlaeth.
Yn ystod Haf 2022, cadarnhaodd Trafnidiaeth Cymru (TrC) gynlluniau i adeiladu gorsaf dau blatfform newydd yng ngogledd Butetown.
Bydd yr orsaf bresennol ym Mae Caerdydd yn cael ail blatfform hefyd, yn ogystal ag arwyddion newydd, sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid a gwelliannau eraill. Bydd gorsaf Bae Caerdydd yn aros ar agor i deithwyr tra bydd y gwaith yn cael ei wneud.
Bydd y gwaith o osod cledrau newydd yn golygu bod modd cynnal gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio trenau tram newydd, gan ein galluogi i gyflwyno amserlen newydd o 2024 ymlaen.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae prosiect trawsnewid Llinell y Bae yn rhan bwysig o Fetro De Cymru ac rydyn ni’n falch iawn o allu dechrau’r gwaith adeiladu ar yr orsaf newydd sbon yn Butetown, yn ogystal ag uwchraddio gorsaf Bae Caerdydd.
“O 2024 ymlaen, byddwn yn darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus modern, mwy llyfn a mwy gwyrdd a fydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl sy’n byw yn Butetown ac yn ardal ehangach Bae Caerdydd.
“Rydyn ni’n awyddus i barhau i gydweithio â thrigolion lleol drwy gynnal gweithdai a sesiynau galw heibio, lle bydd pobl yn gallu cael rhagor o wybodaeth a gofyn cwestiynau am drawsnewid Llinell y Bae.”
Bydd y cynlluniau hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth gydweithredol ehangach, yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith yn archwilio opsiynau posibl ar gyfer llwybrau trafnidiaeth rhwng Caerdydd Canolog a Heol Casnewydd yn y dyfodol, drwy linell Bae Caerdydd a Phorth Teigr ar yr amod bod cyllid yn cael ei sicrhau.
Lansiwyd ymgynghoriad saith wythnos ar 12 Rhagfyr i gael adborth gan y cyhoedd, a bydd y canfyddiadau’n sail i achos busnes amlinellol y prosiect. Gall aelodau’r cyhoedd gael rhagor o wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy fynd i’r dudalen Ymgysylltu â Chymunedau a Rhanddeiliaid ar wefan TrC.
Cysylltwyd â thrigolion Bae Caerdydd sy’n byw yn agos at y rheilffordd i roi iddynt fanylion y gwaith adeiladu a pheirianneg sy’n cael ei wneud yn yr ardal sydd ei hangen i gyflawni rhaglen Llinellau Craidd y Cymoedd, wrth wraidd datblygiad Metro De Cymru.
Bydd y gwaith o adeiladu compownd adeiladu ar Rodfa Lloyd George yn dechrau’r mis hwn a bydd gwaith ar y cledrau yn dechrau yn gynnar yn 2023. Yn fuan, bydd TrC yn dechrau paratoi ar gyfer adeiladu compownd adeiladu ar ochr y cledrau ar Rodfa Lloyd George i helpu i reoli ei waith, ac i ddarparu cyfleusterau lles i weithwyr.
Bydd gwaith rheoli llystyfiant hefyd yn cael ei wneud i glirio parthau trydanol ar gyfer y cyhoedd, y staff a seilwaith ar gyfer y cyfarpar llinellau uwchben a fydd yn cael ei osod.
Bydd TrC yn defnyddio cyfarpar llinellau uwchben i redeg y trenau tram trydanol. Gyda llinellau wedi’u trydaneiddio’n cael eu gosod ar Linellau Craidd y Cymoedd yn Ne Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, gan gynnwys ar llinell y Bae, hoffai TrC dynnu sylw’r cyhoedd at beryglon tresmasu ar y rheilffordd. Mae tresmasu ar y rheilffordd yn anghyfrifol, yn anghyfreithlon ac yn beryglus, a gallai’r rheini sy’n cael eu dal gael dirwy o £1000.
Gyda gwaith trydaneiddio yn mynd rhagddo dros y misoedd nesaf, mae TrC yn annog y cyhoedd i ddilyn rheolau tresmasu ac i gadw’n glir o unrhyw linellau trydan.
Mae Llywodraeth Cymru a TrC wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o welliannau i’r Metro, sef Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae’r prosiect trawsnewid hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Nodiadau i olygyddion
Gall y cyhoedd ddod o hyd i fanylion sesiynau galw heibio cymunedol sydd ar y gweill, yn ogystal â manylion am sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar estyniadau pellach i linellau, drwy fynd i trc.cymru/ymgysylltu
Gellir cael yr wybodaeth ddiweddaraf am drawsnewid Llinell y Bae ar wefan TrC yn: