English icon English

Mesurau newydd i fynd i’r afael â ffliw adar yn dod i rym yfory

New measures to tackle avian influenza come into force tomorrow

Atgoffir ceidwaid adar y bydd mesurau gorfodol newydd mewn perthynas â bioddiogelwch a chadw adar dan to, er mwyn diogelu eu hadar ymhellach rhag ffliw adar, yn dod i rym yfory (dydd Gwener, 2 Rhagfyr).

Wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod mesurau newydd yn cael eu rhoi ar waith o ganlyniad i waith monitro ffliw adar sy’n awgrymu y bydd y risg o ddal y clefyd yng Nghymru yn uwch dros fisoedd y gaeaf.

Mae’r camau hyn yn cyflwyno mwy o wytnwch i’r mesurau pwysig a gyflwynwyd ym mis Hydref drwy Barth Atal Ffliw Adar Cymru.

O yfory ymlaen, rhaid i bob ceidwad adar gadw ei adar o dan do neu eu cadw ar wahân i adar gwyllt. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i geidwaid gwblhau adolygiad bioddiogelwch pwrpasol o’r safle lle mae adar yn cael eu cadw, a gweithredu arno. Y rheswm dros wneud hyn yw lleihau’r risg y bydd y feirws yn mynd i mewn i gytiau adar, oherwydd bod hynny fel arfer yn arwain at lawer o farwolaethau.

Mae’r cyngor iechyd cyhoeddus yn dal i nodi bod y feirws yn peri risg isel iawn i iechyd dynol, ac mae cyngor y cyrff safonau bwyd yn nodi bod ffliwiau adar yn peri risg isel iawn i fwyd defnyddwyr yn y DU.

Dywedodd Gosia Siwonia, Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Dros Dro Cymru: “Rydyn ni wedi cymryd y camau hyn i sicrhau bod adar yn cael eu diogelu ymhellach oherwydd bod data yn awgrymu y bydd y ffliw adar yn lledaenu tua’r gorllewin i Gymru dros y misoedd i ddod.

“Mae cadw adar o dan do yn effeithiol o ran eu diogelu rhag ffliw adar, ond dim ond os yw hynny’n cyd-fynd â mesurau bioddiogelwch trwyadl i gadw’r feirws rhag mynd i mewn i gytiau adar. Bydd y rhestr wirio bioddiogelwch yn hanfodol i’r mesurau hyn, a dyna’r rheswm ein bod wedi’i gwneud yn orfodol i bob ceidwad ei chwblhau.

“Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod anodd i geidwaid adar a’u heidiau, ond rhai inni barhau i wneud popeth yn ein gallu gyda’n gilydd i ddiogelu adar, a bydd y mesurau ychwanegol hyn yn adeiladu ar yr ymdrech mae pobl eisoes wedi’i gwneud.”

Rhestr wirio hunan-asesu orfodol | LLYW.CYMRU