- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
30 Tach 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi partneru â Menywod mewn Trafnidiaeth i lansio Hyb Cymreig newydd a fydd yn grymuso menywod yn y diwydiant i wneud y gorau o’u potensial.
Datgelodd ffigurau diweddar bod y sector trafnidiaeth yn destun bwlch sylweddol rhwng y rhywiau gyda menywod yn cyfrif am ddim ond 20% o weithlu’r Diwydiant Trafnidiaeth a Chyfathrebu yng Nghymru.
Bydd yr Hyb Cymreig newydd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gefnogi’r gweithlu benywaidd presennol ymhellach a ffyrdd o annog mwy o fenywod i ymuno â'r diwydiant trwy helpu i gael gwared ar unrhyw rwystrau cymdeithasol.
Fel rhan o’r lansiad, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu ymchwil a gynhaliwyd gan Chwarae Teg i fapio ble mae menywod yn gweithio yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru ac i ddeall eu profiadau.
Dengys yr ymchwil bod menywod yn arbennig wedi'u tangynrychioli yn y grwpiau galwedigaethol a gysylltir yn draddodiadol â dynion, yn enwedig ymhlith peirianwyr, cynnal a chadw cerbydau a gyrwyr. Bydd y bartneriaeth newydd nawr yn defnyddio'r data hwn i lywio eu gwaith a rhoi newid cadarnhaol ar waith yn y diwydiant trafnidiaeth ledled Cymru.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd: “Mae galw mawr am bobl i weithio yn y sector trafnidiaeth a logisteg. Ar gyfartaledd mae tua 4,500 o swyddi gwag ym maes trafnidiaeth a logisteg yn cael eu hysbysebu ar-lein bob mis yng Nghymru. Mae'n rhyfeddol felly mai dim ond 20% o'r gweithlu sy'n fenywod. Dyna pam rwy’n falch ein bod wedi gallu noddi’r darn hwn o waith sy’n edrych ar y rhwystrau a’r heriau sy’n wynebu menywod sy’n ymuno â’r gweithlu a sut y gellir eu goresgyn.”
Ychwanegodd Jo Foxall, y Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid yn Trafnidiaeth Cymru ac Arweinydd Menywod mewn Trafnidiaeth Cymru: “Mae wedi bod yn wych lansio Hwb Cymru Menywod mewn Trafnidiaeth a gweld cymaint o bobl yn mynychu ac yn cefnogi’r digwyddiad.
“Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym yn adeiladu gweithlu cynhwysol ac amrywiol ac rydym yn cydnabod bod angen i’n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ddarparu ar gyfer y cyhoedd amrywiol a bod yn gynhwysol i bawb.
“Rwyf wedi gweithio yn y sector trafnidiaeth ers 18 mlynedd ac rwy’n angerddol iawn am annog mwy o fenywod i ymgymryd â rolau yn y sector trafnidiaeth, rolau rheng flaen traddodiadol gwrywaidd yn ogystal â mwy o swyddi arwain a gwneud penderfyniadau.”