- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
01 Rhag 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi partneru â chwmni gwybodaeth symudedd Cityswift i ddefnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial i wella profiad teithwyr bysiau yng Nghymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru ar daith drawsnewidiol i wella trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru ac annog mwy o bobl i’w defnyddio. Mae’r gwaith dadansoddi data gyda Cityswift wedi rhoi mynediad i TrC i fewnwelediadau newydd ac amseroedd rhedeg a bwerir gan AI.
Drwy’r data a ddarparwyd, gallai Trafnidiaeth Cymru gael gwybodaeth am berfformiad pump o brif weithredwyr bysiau Cymru, gan ganolbwyntio ar alw a dadansoddi patrymau symudiadau. Gan ddefnyddio’r data hwn, gall Trafnidiaeth Cymru wella amserlenni bysiau a phrydlondeb, gan gynnig gwasanaeth llawer mwy dibynadwy a chyfleus i deithwyr gydag amseroedd teithio cyflymach.
Dywedodd Andrew Sherrington, Pennaeth Rhwydwaith Bysiau a Datblygu Gwasanaethau TrC: “Mae CitySwift wedi rhoi gwell dealltwriaeth gyffredinol i Trafnidiaeth Cymru o'r ffordd y mae’r rhwydwaith yn symud. Am y tro cyntaf, mae gennym wybodaeth am brydlondeb, dibynadwyedd ac effeithlonrwydd manwl pum cwmni bysiau mawr Cymru.
“Bydd yr wybodaeth newydd hon yn ein galluogi i weithio gyda gweithredwyr i wneud y bws yn wasanaeth mwy deniadol i bobl Cymru.”
Yn siarad am lwyddiant parhaus y bartneriaeth, dywedodd John Aloy, Pennaeth Twf CitySwift: “Mae CitySwift yn falch iawn o gefnogi Trafnidiaeth Cymru yn darparu opsiynau trafnidiaeth diogel, cynaliadwy i bobl Cymru.
“Gan ddefnyddio gwybodaeth symudedd CitySwift i gael gwybodaeth am berfformiad, data ac amserlenni diwygiedig, gall tîm Trafnidiaeth Cymru ddarparu gwasanaeth bws mwy deniadol, dibynadwy a chyfleus i bobl Cymru.”