Skip to main content

TfW wins award for train driving apprenticeship programme

12 Rhag 2022

Rydyn ni’n falch iawn o rannu’r newyddion gwych ein bod ni wedi cael ein coroni’n Gyflogwr Mawr y Flwyddyn 2022 yng Ngwobrau Academi Sgiliau Cymru eleni.

Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Mawrth 15 Tachwedd yn ystod noson yng Ngholeg Castell-nedd, ac roedd yn gyfle i arddangos a dathlu’r enillwyr teilwng o bob cwr o Gymru sydd wedi llwyddo yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, oherwydd eu hymroddiad a’u hymrwymiad i wella eu datblygiad sgiliau a chyfrannu at gynhyrchiant busnes drwy raglenni dysgu seiliedig ar waith.

Enwebwyd TrC gan Goleg y Cymoedd ar gyfer y categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (ar gyfer sefydliadau sydd â dros 100 o weithwyr), o ganlyniad i waith gwych ein timau ar y rhaglen prentisiaeth i Yrwyr ac mewn partneriaeth â’r coleg, ni oedd y gweithredwr trenau cyntaf yn y DU i gynnig cymhwyster NVQ lefel 3 achrededig mewn gweithrediadau gyrwyr trenau fel rhan o'i brentisiaeth. Mae dros 100 o yrwyr trenau dan hyfforddiant wedi ymgymryd â’r cymhwyster yn ystod y flwyddyn gyntaf, a nod y rhaglen yw recriwtio 100 yn fwy bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf.

Aeth aelodau o golegau a busnesau sy’n cynnig cynlluniau prentisiaeth o bob rhan o Gymru i’r gwobrau, ac roedd hi'n noson wych llawn enillwyr haeddiannol.

Roedd Adam Bagwell, Rheolwr Hyfforddiant Gweithrediadau a James Cooper, Pennaeth Cynllunio’r Gweithlu a Hyfforddiant Gweithredol TrC yn bresennol ac yno i dderbyn y wobr, yn ogystal â Bev Hannible, Paul Yanz a Gareth Brace, yr Addysgwyr Gyrwyr a Gweithrediadau.

Dywedodd Adam Bagwell: “Mae’n gamp wych cael ein cydnabod fel hyn am yr holl waith a’r ymdrech sydd wedi cael ei wneud i greu’r rhaglen prentisiaeth i Yrwyr. 

“Mae cyflawni hyn yn yr ail flwyddyn yn golygu ei fod yn fwy arbennig fyth. Rydw i mor falch o’r gwaith a’r ymdrechion y mae’r tîm Hyfforddiant Gyrru a Gweithrediadau wedi’u gwneud ac yn parhau i’w gwneud yn y rhaglen hon. 

“Rydyn ni’n darganfod pobl ardderchog, proffesiynol ac ymroddedig drwy’r rhaglen hyfforddi sy’n creu gyrrwyr gwych.”

Gallwch glywed mwy gan Adam ar y fuddugoliaeth a’r hyn mae’r rhaglen yn ei gynnig yn y fideo isod.