English icon English

Cyllideb i "ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed"

Budget to “protect public services and the most vulnerable”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb newydd i helpu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn wyneb "storm berffaith o bwysau ariannol".

Wrth gyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, mai hon yw un o'r cyllidebau anoddaf ers dechrau datganoli.

Mae Cyllideb Ddrafft eleni yn adeiladu ar y cynlluniau gwariant a nodwyd yn y Gyllideb dair blynedd a gyhoeddwyd y llynedd. Mae penderfyniadau anodd wedi cael eu gwneud i ail-flaenoriaethu cyllid o fewn cyllidebau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod cymaint o gymorth â phosibl yn cael ei ddarparu i wasanaethau cyhoeddus, ac i’r bobl a’r busnesau sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw a'r dirwasgiad.

Mae'r Gyllideb Ddrafft hefyd yn dyrannu’r cyllid ychwanegol a ddaeth i Gymru drwy Ddatganiad yr Hydref.

Mae £165m ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar gyfer GIG Cymru er mwyn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen.

Mae £227m ychwanegol yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol er mwyn helpu i ddiogelu'r gwasanaethau y mae cynghorau yn eu darparu – gan gynnwys ysgolion – yn ogystal â chyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol. Mae'r cyllid hwn hefyd yn cyfrannu at y pecyn cymorth busnes dwy flynedd ehangach, sy’n werth £460m, a gafodd ei gyhoeddi ddoe.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o gymorth ar gyfer addysg gyda £28m ychwanegol ar gyfer y gyllideb addysg, i gryfhau'r sector addysg bellach, gwella safonau mewn ysgolion, cefnogi plant sy’n dod o deuluoedd incwm is, a helpu plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r swm llawn o £117m o gyllid canlyniadol ar gyfer gwariant ar addysg yn Natganiad yr Hydref wedi cael ei ddarparu i lywodraeth leol er mwyn ariannu ysgolion.

Mae cyllid hefyd yn cael ei ddarparu i gefnogi ymateb dyngarol parhaus Cymru i'r rhyfel yn Wcráin a'r miloedd o bobl sydd wedi ceisio diogelwch a lloches yng Nghymru – bydd £40m yn cael ei ddyrannu yn 2023-24 a £20m yn 2024-25.

Mae'r Gyllideb Ddrafft hefyd yn darparu £18.8m ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol, sy'n darparu taliadau arian parod mewn argyfwng sy’n gwbl allweddol i bobl sy'n wynebu caledi ariannol.

Bydd £40m arall yn cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu i greu system drafnidiaeth gynaliadwy a gwyrddach, sy'n gam arall ar daith Cymru tuag at gyflawni Sero Net erbyn 2050.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

"Mae hon yn gyllideb mewn cyfnod anodd a fydd yn rhoi gymaint o gymorth ag y gallwn i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn wyneb storm berffaith o bwysau ariannol. Bydd hefyd yn darparu rhywfaint o gymorth ychwanegol i'r rheini sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw ac yn cefnogi ein heconomi drwy'r dirwasgiad.

"Defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael inni yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl yw’r nod. Mae hyn yn golygu cydbwyso'r anghenion tymor byr sy'n gysylltiedig â'r argyfwng costau byw sy’n parhau, gyda'r angen parhaus i wneud newid ar gyfer y tymor hwy a chyflawni ein huchelgais yn y Rhaglen Lywodraethu i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

"Mae hon wedi bod yn un o'r cyllidebau anoddaf ers datganoli. Mae'n cael ei chyflwyno mewn cyfnod o ddirwasgiad pellach i economi'r DU, a hyn yn dilyn degawd o fesurau cyni, Brexit a'r pandemig. Mae chwyddiant ar ei lefel uchaf ers 40 mlynedd ac mae costau ynni wedi cynyddu’n ddychrynllyd.

"Mae chwyddiant wedi erydu grym gwario ein cyllideb ond nid yw wedi effeithio ar ein huchelgais. Rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn i sicrhau bod ein holl adnoddau'n cael eu defnyddio i helpu i gefnogi pobl, busnesau a gwasanaethau drwy'r flwyddyn anodd sydd o’n blaenau."

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru werth hyd at £1bn yn llai y flwyddyn nesaf na phan gafodd ei chyhoeddi'n wreiddiol, a hyd at £3bn yn llai dros gyfnod yr adolygiad o wariant dair blynedd o 2022-23 i 2024-25.

O ganlyniad i drefniadau cyllido Llywodraeth y DU yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, mae diffyg o £1.1bn yng nghyllid Cymru hefyd o'i gymharu â phan yr oedd yn elwa ar gronfeydd strwythurol a gwledig yr UE.