English icon English

Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru – canllaw newydd i greu perthynas fwy deallus â’n hanes

Public Commemoration in Wales – new guidance to help create a more informed relationship with our history

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad heddiw ar ganllaw newydd fydd yn helpu cyrff cyhoeddus i gyflwyno’r Gymru gyfoes yn well trwy goffadwriaethau cyhoeddus.

Bydd Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus yn helpu cyrff cyhoeddus i greu perthynas fwy deallus â hanes Cymru wrth ymdrin â chofebau ac ati sy’n bod eisoes, lle mae gwaddol y fasnach mewn caethweision a’r ymerodraeth Brydeinig yn weladwy o hyd mewn mannau cyhoeddus.  Gallai helpu cyrff cyhoeddus hefyd wrth gomisiynu cofebau cyhoeddus newydd.

Mae’r canllaw yn gwireddu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i fynd i’r afael yn llawn ag argymhellion “Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: archwiliad o Goffáu yng Nghymru” a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Tachwedd 2020 ac a ailgyhoeddwyd gyda newidiadau flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae’r canllaw yn cefnogi’n uniongyrchol un o amcanion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru “Gweithio gyda chyrff cyhoeddus i gydnabod yn llawn eu cyfrifoldeb am gyflwyno’r naratif hanesyddol priodol, gan hyrwyddo a chyflwyno disgrifiad cytbwys, dilys ac wedi’i ddatrefedigaethu o’r gorffennol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Mae coffáu cyhoeddus yn ganolog i’r ffordd rydym yn cynrychioli’n hanes, yn hyrwyddo’n gwerthoedd ac yn dathlu’n cymunedau.  Ond gall weithiau fod yn ddadleuol a bydd wastad o ddiddordeb aruthrol i’r cyhoedd.

“Bwriad y canllaw hwn yw helpu cyrff cyhoeddus i wneud penderfyniadau sy’n lleihau’r risg o droi’n bwnc llosg, gan gymryd cyfleoedd i greu perthynas fwy deallus â’n hanes, ac sy’n wir ddathlu amrywiaeth ein cymunedau.”

Mae’r canllaw yn nodi’r arfer gorau ar gyfer gwneud penderfyniadau ac nid yw’n orfodol. Ei ffocws yw sut i wneud penderfyniadau da yn hytrach na pha benderfyniadau i’w gwneud ac mae wedi’i rannu’n ddwy ran:

  • Mae Rhan 1 yn cyflwyno pwnc coffáu cyhoeddus a’i effaith;
  • Mae Rhan 2 yn nodi’r pedwar cam y dylai cyrff cyhoeddus eu cymryd wrth fynd i’r afael â’r materion hyn a sylweddoli cyfraniad coffáu cyhoeddus at sicrhau Cymru wrth-hiliol.

Dyma’r pedwar cam:

  • Creu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol
  • Pennu’n glir beth yw nodau coffáu cyhoeddus
  • Creu meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau
  • Cymryd camau i wireddu’r nodau a mynd i’r afael â’r problemau sy’n codi wrth goffáu’n gyhoeddus.

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:

“Nid yw’r coffadwriaethau rydym wedi’u hetifeddu o reidrwydd yn adlewyrchu ein gwerthoedd heddiw. Ond gallant fod yn deilwng o’u lle o hyd o’u defnyddio’n effeithiol i ddysgu am fyd-olwg y cenedlaethau o’n blaenau; i ystyried y ffordd wahanol yr ydym ni’n gweld y byd; ac i sbarduno meddwl yn hytrach na rhaniadau. 

“Fel yr ydym ninnau wedi etifeddu’r waddol hon sy’n dweud rhywbeth wrthym am werthoedd y gorffennol, dylem ninnau ystyried rhoi rhywbeth i genedlaethau’r dyfodol sy’n dangos ein gwerthoedd ni wrth i ni weithio at greu Cymru fwy cyfartal.”

Mae’r ail-ddehongli fu’n ddiweddar ar Thomas Picton, trwy baneli gwybodaeth wrth y gofeb iddo yng Nghaerfyrddin, a thrwy ail-fframio ei bortread yn Amgueddfa Cymru, yn enghraifft ddiweddar o hyn.

Dywedodd y Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:

“Mae prosiect Ail-fframio Picton yn ganlyniad perthynas waith adeiladol rhwng Amgueddfa Cymru a Rhwydwaith Arweinwyr Ifanc y Panel Cynghori Is-Sahara a Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru.  Mae’n dangos pwysigrwydd a’r canlyniadau positif a ddaw o weithio gyda’n gilydd a gwrando ar ein gilydd.

“Fel amgueddfa genedlaethol Cymru, mae dyletswydd arnom i gyfleu hanes mor gywir ag y medrwn, i gyflwyno persbectif cytbwys o’r gorffennol, ac i bwyso a mesur ein dealltwriaeth pan dynnir ein sylw at ffeithiau a safbwyntiau.  

“Yn achos portread Thomas Picton, mae taro ar y persbectif cytbwys hwnnw yn golygu gwrando’n ofalus ar leisiau pobl Ddu a chymunedau sydd wedi’u lleiafrifoli sy’n aml wedi’u hallgau.

“Mae Amgueddfa Cymru’n cydnabod bod amgueddfeydd, eu casgliadau a’u diwylliannau’n aml â’u gwreiddiau mewn gwladychiaeth a hiliaeth. Dim ond un agwedd ar waith Amgueddfa Cymru i wneud y casgliadau cenedlaethol yn fwy cynhwysol a chynrychioli naratifau amrywiol a chyfoethog cymdeithas Cymru yw Ail-fframio Picton.”

Mae’r canllaw’n rhagdybio y dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn lleol, trwy drefniadau cynhwysol sy’n annog cyrff cyhoeddus i wrando ar holl amrywiaeth ein cymunedau ac ymateb iddynt.

Cafodd y canllaw ei ddatblygu trwy gyfres o weithdai gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid â phrofiadau perthnasol o fywyd yn aelodau ohonynt.

Fe welwch yr ymgynghoriad yma