- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
09 Rhag 2022
Mae teithwyr rheilffordd yn cael eu rhybuddio i baratoi ar gyfer tarfu ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn ystod Rhagfyr a Ionawr.
Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd gweithredu diwydiannol ar 13-14, 16-17 a 24-27 Rhagfyr a 3-4 a 6-7 Ionawr.
Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r gweithredu diwydiannol. Fodd bynnag, mae’r gweithredu diwydiannol sy’n deillio o’r anghydfod rhwng yr undebau a Network Rail yn golygu na all Trafnidiaeth Cymru weithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.
Gweithredu diwydiannol
13-14 a 16-17 Rhagfyr a 3-4 a 6-7 Ionawr – dim ond gwasanaethau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau fydd yn gallu gweithredu
Bydd mwyafrif y gwasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn cael eu hatal. Fel ar ddiwrnodau streic blaenorol, bydd gwasanaeth bob awr yn rhedeg rhwng Caerdydd a Chasnewydd, Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful a Rhymni.
Ni all unrhyw wasanaethau eraill ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau weithredu ar ddiwrnodau streic.
Ar 15 Rhagfyr a 5 Ionawr, bydd amserlen lawn yn gweithredu ond bydd gwasanaethau’n dechrau’n hwyrach nag arfer – bydd y streiciau’n effeithio ar sifftiau signalau sifft nos, felly dim ond pan fydd signalwyr ar sifft cynnar yn cyrraedd ar ddyletswydd y gall gwasanaethau ddechrau. Am ragor o wybodaeth ewch i Gweithredu diwydiannol | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)
24-27 Rhagfyr
Bydd gwasanaethau'n gorffen yn gynt na'r arfer ar 24 Rhagfyr ac yn dechrau'n hwyrach ar 27 Rhagfyr oherwydd y gweithredu diwydiannol. Nid fydd unrhyw wasanaethau yn rhedeg ar 25 a 26 Rhagfyr.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Mae cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn draddodiadol yn gyfnod prysur iawn i’r diwydiant rheilffyrdd ac eleni gyda chynifer o ddiwrnodau o weithredu diwydiannol yn cael eu cynnal drwy gydol mis Rhagfyr a mis Ionawr, mae’n hanfodol bod teithwyr yn gwirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.
“Rydym yn parhau i gynghori pobl i deithio ar y trên ar ddiwrnodau streic dim ond os ydynt wedi gwirio’r cynlluniwr taith yn gyntaf. Er nad ydym yn rhan o’r gweithredu diwydiannol, dim ond tua 10% o’n gwasanaethau fydd yn rhedeg a bydd y mwyafrif o rwydwaith Cymru a’r Gororau heb unrhyw wasanaethau o gwbl.”
Gweithredwyr eraill - Great Western Railway
Bydd GWR yn gallu gweithredu i/o Gaerdydd ar 13/14/16 Rhagfyr a 3/4/6 Ionawr, ond nid ar ddydd Sadwrn 17 Rhagfyr na 7 Ionawr.
Ni fydd gwasanaethau Great Western Railway yn rhedeg ar Ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan.
Dydd Mawrth 27 tan ddydd Sadwrn 31 Rhagfyr
Bydd trenau rhwng Llundain a De Cymru yn rhedeg ond yn cael eu dargyfeirio rhwng Swindon a Chasnewydd – gan ychwanegu tua 25 munud at hyd y daith.
- Bydd gwasanaeth bob awr yn gweithredu rhwng London Paddington ac Abertawe
- Bydd y trenau hyn hefyd yn galw yn Patchway
- Trefnir bysiau gwennol rhwng Patchway a Bristol Parkway
Ewch i Teithio dros y Nadolig | Great Western Railway (gwr.com) am fwy o wybodaeth
Gwaith peirianyddol arfaethedig
Gyda niferoedd is o deithwyr i’w disgwyl dros gyfnod y Nadolig, mae Trafnidiaeth Cymru yn achub ar y cyfle i gyflawni darnau mawr o waith seilwaith.
Gallwch ddarllen gwybodaeth am sut mae hyn yn effeithio ar wasanaethau teithwyr yma Newidiadau i wasanaethau trên | TfW (trc.cymru)
Bydd Network Rail yn gwneud gwaith peirianyddol rhwng Abertawe a Chaerfyrddin rhwng Rhagfyr 24 a 0400 ar 27 Rhagfyr, pan nad oes disgwyl i drenau gweithredu. Bwriedir gwneud rhagor o waith peirianyddol rhwng y ddau leoliad rhwng Rhagfyr 31 a Ionawr 2, gyda gwasanaeth bws yn lle trên.
Teithio ar fws
I gael trosolwg o drefniadau teithio’r Nadolig gan weithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ewch i dudalen ‘Gwybodaeth Teithio’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd’ Traveline Cymru neu ffoniwch linell gwasanaeth cwsmeriaid Traveline Cymru - Rhadffôn 0800 464 0000.
Bydd llinell gymorth Traveline Cymru ar gael bob dydd dros gyfnod y Nadolig ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan, gyda llai o oriau ar Noswyl Nadolig a Dydd Calan.
Os ydych chi'n teithio'n rheolaidd ar wasanaethau Traws Cymru, gallwch weld amserlenni'r Nadolig yma: https://traws.cymru/cy/christmas-2022
Cofiwch y bydd rhai cwmnïau bysiau ledled Cymru yn gweithredu amserlenni llai gan ddod a gwasanaethau i ben yn gynt ar Noswyl Nadolig, Nos Galan ac ar ddiwrnodau eraill dros gyfnod y Nadolig, gyda rhai gwasanaethau’n cau ar Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan yn ogystal â Dydd Calan.
Cynlluniwch ymlaen llaw a gwiriwch cyn teithio.