English icon English

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths - Golygu genynnol mewn amethyddiaeth

Minister of Environment, Energy and Rural Affairs Lesley Griffiths: Genetic editing in agriculture

Dwedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Mae trafodaeth gyson yn y gymuned wyddonol ynglŷn â diogelwch planhigion ac anifeiliaid sydd wedi eu heffeithio gan olygu genynnol. Yng Nghymru, byddwn yn parhau i ddilyn safbwynt rhagofalus tuag at addasiadau genynnol, ac mae hyn yn cynnwys dulliau golygu genynnol.

"Bydd ein safbwynt, fel arfer, yn dibynnu ar y wyddoniaeth ac effaith y gwaith rydym yn cynnal heddiw ar genedlaethau dyfodol Cymru.”