English icon English

Trelar Dan Embargo: Cynllun Brechu Covid Llywodraeth Cymru i'w gyhoeddi heddiw

Embargoed Trailer: Welsh Government’s Covid Vaccination Plan to be published today

Heddiw (dydd Llun), bydd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn cyhoeddi Cynllun Brechu Covid Llywodraeth Cymru, gan nodi cyfres o gerrig milltir ar gyfer pryd bydd pobl yn cael cynnig brechlyn.

Bydd y cynllun uchelgeisiol yn disgrifio sut bydd yr holl oedolion cymwys yn cael eu brechu yn y rhaglen fwyaf o'i bath.

Daw wrth i Gymru gyhoeddi ffigyrau brechu dyddiol o heddiw ymlaen – roedd mwy na 70,000 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid erbyn diwedd yr wythnos ddiwethaf.