English icon English

Llywodraeth Cymru yn lansio Papur Gwyn ar Aer Glân ac yn adrodd ar effaith y cyfyngiadau symud ar ansawdd yr aer

Welsh Government launches Clean Air White Paper and report on impact of lockdown on air quality

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyn yn nodi ei chynlluniau cadarn ar gyfer Bil Aer Glân (Cymru), a fydd yn diogelu, yn gyfreithiol, iechyd y genedl a'n hecosystemau rhag llygryddion aer niweidiol yn ein hatmosffer.

Ar hyn o bryd amcangyfrifir bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at ddisgwyliad oes is a marwolaeth, sy'n cyfateb â rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn nodi mai llygredd aer yw'r risg iechyd amgylcheddol unigol mwyaf, yn fyd-eang.

Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad ar effaith y pandemig ar ansawdd aer o fis Mawrth i fis Hydref 2020, sy'n ymchwilio i wyddoniaeth honiadau anecdotaidd bod y cyfyngiadau symud wedi arwain at aer glanach mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru. Mae Ymgynghoriad ar Leihau Allyriadau o Losgi Tanwydd Solet yn y Cartref hefyd wedi'i lansio.

Mae'r adroddiad yn rhoi darlun cymhleth: gwelodd dau fis cyntaf y cyfyngiadau symud ostyngiadau sylweddol mewn lefelau rhai llygryddion, yn gyson â llai o draffig. Fodd bynnag, cynyddodd lefelau llygryddion eraill. 

Er bod llai o geir ar y ffordd yn golygu gostyngiad o 36% a 49% mewn crynodiadau nitrogen deuocsid a nitrogen ocsidiau, yn y drefn honno, ar ochrau ffyrdd Cymru rhwng mis Mawrth a mis Mai, daeth patrwm newid tywydd â gronynnau mân llygredig (PM2.5) o gyfandir Ewrop. Bydd dadansoddiad parhaus o'r newidiadau tymor hwy mewn llygredd aer oherwydd mesurau cloi yn parhau wrth i ddata ddod i'r amlwg.

Yng Nghymru, mae ansawdd aer gwael yn cael effaith arbennig o amlwg ar iechyd y rhai mwyaf agored i niwed – fel yr ifanc iawn neu'r hen iawn, neu bobl â chlefydau cardiofasgwlaidd a chyflyrau anadlol fel asthma a Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD).

Yn fwy na hynny, mae llygredd aer yn cael effaith negyddol enfawr ar ein byd naturiol, gyda mwy o nitrogen a llygryddion yn yr atmosffer yn ffactor blaenllaw yn y bygythiad o ddiflaniad planhigion ac anifeiliaid Cymru.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Mae anadlu aer glân a chael mynediad i amgylchedd iach yn hawl, nid yn fraint. Rhaid inni gymryd camau pendant a pharhaol yn awr i alluogi cenedlaethau'r dyfodol i fyw bywydau iach.

"Prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru o hyd yw cadw ein cymunedau'n ddiogel a chefnogi teuluoedd a busnesau drwy bandemig COVID-19.

"Ond yn union fel COVID, mae llygredd aer yn effeithio'n anghymesur ar y rhai mwyaf difreintiedig a bregus yn ein cymdeithas. Gwyddom o'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw nad yw'r sefyllfa'n syml. Rwy'n croesawu sylwadau gan y cyhoedd, academyddion, elusennau a busnesau fel ei gilydd, i'n helpu i greu darlun clir o sut y byddwn yn gwella ansawdd ein haer ac yn creu ein llwybr ar y cyd i Gymru wyrddach ac iachach."

Meddai Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Rydym yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Aer Glân. Mae'n gwneud cysylltiad cryf rhwng iechyd ac ansawdd aer, ac yn cydnabod mai'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn aml sy'n byw gyda lefelau uwch o lygredd. Mae'r Papur Gwyn yn cryfhau ac yn cefnogi ein gwaith i ddiogelu a gwella iechyd pobl Cymru."

Y Papur Gwyn yw'r cam nesaf yn y broses o greu Deddf Aer Glân (Cymru) – un o ymrwymiadau allweddol y Prif Weinidog Mark Drakeford.  Mae'n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn:-

  • Gosod targedau ansawdd aer, gan gynnwys ar gyfer deunydd gronynnol, sy'n cyfrif am y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a'r safonau rhyngwladol, gan gynnwys canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.
  • Adolygu targedau gan arbenigwyr annibynnol yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau uchaf posibl ac yn sicrhau'r budd mwyaf i les pobl Cymru.
  • Pennu gofyniad i gynllun neu Strategaeth Aer Glân gael ei adolygu'n llawn o leiaf bob 5 mlynedd.
  • Sicrhau bod y broses o reoleiddio Rheoli Ansawdd Aer Lleol yn fwy effeithiol. Mae hyn yn cynnwys gosod dyddiadau cydymffurfio rhagamcanol gofynnol ar gyfer Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer a rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol ddod â phartneriaethau ynghyd â sefydliadau eraill i ddatblygu a gweithredu atebion ar y cyd.
  • Galluogi gweithredu Parthau Aer Glân a Pharthau Allyriadau Isel yn well ble mae eu hangen.
  • Rhoi mwy o bwerau i Awdurdodau Lleol fynd i'r afael â cherbydau sy'n oedi, gan gynnwys y tu allan i ysgolion a lleoliadau gofal iechyd, a chynyddu'r cosbau y gallant eu defnyddio.
  • Galluogi Awdurdodau Lleol i reoli a gorfodi wrth ddelio â llosgi tanwyddau heb awdurdod yn anghyfreithlon drwy bwerau rheoli mwg cryfach.
  • Gosod dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus a phreifat ar draws sectorau i helpu'r cyhoedd i ddeall risgiau llygredd aer, gan gynnwys drwy ddarparu mwy o fonitro, er mwyn annog newid cadarnhaol mewn ymddygiad i leihau llygredd aer o’r tarddiad.
  • Cefnogi mwy o ddefnydd o ddulliau sy'n seiliedig ar natur ble mae ganddynt allu profedig i gyfrannu at wella ansawdd aer.

Bydd yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn dechrau heddiw, a bydd yn para tan 7 Ebrill.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgynghori ar ddulliau o leihau allyriadau o losgi tanwydd solet yn y cartref, ac mae'n cynnig cyfyngiadau tebyg i'r rhai a basiwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr. Mae'r cyfyngiadau'n ystyried y mathau o danwydd a ddefnyddir yn y cartref, a byddent yn gwahardd gwerthu glo tŷ ac yn cyfyngu ar werthu pren gwlyb. Dyma ddau o'r mathau mwyaf llygredig o danwydd solet a ddefnyddir ar aelwydydd yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am sylwadau ar:

  • Waharddiad ar werthu glo tŷ bitwminaidd neu draddodiadol.
  • Cyfyngu ar faint o bren gwlyb sy’n cael ei werthu.
  • Rheoleiddio tanwydd solet a weithgynhyrchwyd yn well er mwyn sicrhau bod crynodiadau Deunydd Gronynnol yn cael eu cynnwys wrth brofi a chymeradwyo.
  • Sicrhau mai dim ond yr offer mwyaf effeithlon sy’n llygru leiaf sydd ar gael i'w prynu a'u gosod.
  • Cyflwyno gofyniad i sicrhau bod cyfarpar a lleoedd tân yn cael eu cynnal a'u cadw'n ddigonol.
  • Ymestyn y defnydd o Ardaloedd Rheoli Mwg.
  • Mecanweithiau i ddiogelu aelwydydd rhag tlodi tanwydd sy'n deillio o unrhyw gyfyngiad ar danwydd sydd ar gael.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Nid yw hyn yn ymgais i wahardd defnyddio pren fel tanwydd, nac i wahardd defnyddio stofiau llosgi coed. Fodd bynnag, rydym yn anelu at roi gwybod i'r cyhoedd am y peryglon a achosir gan ddeunydd gronynnol mân a llygredd aer arall sy’n cael ei ryddhau o losgi ar unrhyw ffurf, a'r niwed y mae'n ei wneud i iechyd a lles pobl Cymru."