English icon English

RHAGFLAS DAN EMBARGO: 00.01 Dydd Gwener 18 Rhagfyr

EMBARGOED TRAILER: 00.01 Friday 18 December

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi heddiw y bydd £110m o gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau diweddaraf, sy’n dechrau dod i rym o ddiwedd masnachu ar Noswyl Nadolig.

Mae disgwyl i’r pecyn cymorth newydd helpu degau o filoedd o gwmnïau ledled Cymru.

Bydd busnesau lletygarwch, manwerthu dianghenraid, twristiaeth, hamdden a busnesau y gadwyn gyflenwi yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol.

Mae’r cyllid yn ychwanegol i’r £340m o gymorth i fusnesau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddiwedd Tachwedd.

Bydd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg yn datgelu rhagor o wybodaeth am y pecyn cyllido hwn yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg heddiw.

Bydd datganiad mwy manwl i’r wasg yn cael ei gyhoeddi am 12.30pm.