English icon English

Gofyn i bobl lywio dyfodol y gweithle yng Nghymru

People to be asked to shape future of Welsh workplace

Yn fuan bydd pobl yng Nghymru yn gallu awgrymu lleoedd yn eu cymunedau lle yr hoffent weithio, fel rhan o uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru i gael tua 30% o’r gweithlu’n gweithio gartref neu’n gweithio o bell.

Disgrifiodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, y fenter yn “gyfle i bobl lywio dyfodol y gweithle yng Nghymru.”

Bydd map rhyngweithiol – a fydd i’w weld ar blatfform Commonplace – yn gofyn i bobl a fyddent yn hoffi gweithio o bell, a bydd modd i bobl osod pin ar fan ar y map i ddangos lle yr hoffent weld hyb cydweithio.

Mae’r map rhyngweithiol yn rhan o waith ymchwil a chasglu tystiolaeth i fesur y galw am hybiau gweithio lleol, gan nodi lle y mae eu hangen ac a ydynt ar gael eisoes. O heddiw ymlaen [28 Ionawr] gall pobl gofrestru ar gyfer newyddion am y prosiect, cyn i’r map gael ei lansio ddydd Iau, 11 Chwefror.

Mae gweithio’n lleol yn cynnig dewis arall yn lle gweithio gartref neu mewn swyddfa ganolog, gan roi mwy o hyblygrwydd i bobl o ran sut y maent yn gweithio.

Fel rhan o’i hymateb i’r coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynyddu nifer y bobl sy’n gweithio y tu allan i’r amgylchedd swyddfa traddodiadol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy sbarduno newidiadau i’n diwylliant gweithio yng Nghymru a rhoi mwy o ddewis i bobl. Nodwyd bod datblygu rhwydwaith o hybiau gweithio lleol yn faes a ddylai gael blaenoriaeth i helpu i gyflawni hyn.

Mae cynlluniau peilot yn cael eu rhoi ar waith i brofi faint o ddefnydd a wneir ohonynt a pha mor effeithiol y byddant, ac i weld pa fathau o fodelau cyflawni y gellir eu defnyddio. Bydd y rhain yn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ac yn dylanwadu ar unrhyw gamau ychwanegol i fwrw ati gyda’r cynlluniau. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd rhagor o fanylion hefyd yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Dyma gyfle i bobl lywio dyfodol y gweithle yng Nghymru. Gobeithio y bydd gymaint o bobl ag y bo modd yn dweud eu dweud.

“Mae’r pandemig wedi creu’r angen i weithio gartref i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Ond mae manteision ehangach i weithio y tu allan i’r swyddfa ac mae angen inni fanteisio i’r eithaf arnynt. Nid yw’n bosibl i rai pobl weithio gartref a bydd hybiau lleol yn eu helpu i weithio heb wynebu taith hirfaith.

“Rydym yn dymuno rhoi mwy o ddewis i bobl o ran ble a sut y maent yn gweithio. Gweithio o bell yw un o’r opsiynau rydym am ei roi i bobl. Pan fydd y map yn cael ei lansio bydd cyfle i bobl ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth y byddwn yn ei defnyddio i roi’r cynlluniau hyn ar waith.”