English icon English
LFF Phase 3 winter 2020 - press advert-2

Llywodraeth Cymru a’r heddlu yn uno i warchod dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol y Nadolig hwn

Welsh Government and police forces unite to protect victims of domestic abuse and sexual violence this Christmas

Ni fydd cam-drin domestig a thrais rhywiol yn diflannu dros gyfnod yr ŵyl.

Gall cyfnod o argyfwng arwain at gynnydd mewn achosion o drais domestig, a gall y Nadolig a chyfnod y gwyliau fod yn adeg ddychrynllyd, ynysig a llawn ofn i ddioddefwyr trais a chamdriniaeth.

Er nad yw Covid-19 a’r cyfyngiadau wedi achosi i gam-drin domestig ddigwydd, mae tystiolaeth yn dangos bod y ffaith bod dioddefwyr yn cael eu cau y tu ôl i ddrysau caeedig gyda’r rheini sy’n eu cam-drin, 24 awr y dydd, wedi gwneud pethau'n waeth. Mae wedi cynyddu'r risg i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Heddiw gofynnodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, i ffrindiau a chymdogion gadw llygad am arwyddion o gam-drin domestig, gan annog dioddefwyr a goroeswyr i geisio cymorth a dianc o'u cartrefi os oes angen.

Dywedodd Jane Hutt:

"Nawr, yn fwy nag erioed, rwy'n annog cymunedau, ffrindiau, cymdogion, gweithwyr post a gyrwyr sy’n danfon nwyddau ledled Cymru i gadw llygad ar eraill yn y gymuned. Dylent fod yn effro am arwyddion bod rhywun yn cael ei gam-drin ac angen help. Edrychwch y tu hwnt i’r goleuadau Nadolig a’r anrhegion, ac os gwelwch ofn yn llygaid y sawl sydd ochr arall i’r drws, gallwch helpu drwy alw 999 mewn argyfwng, neu'r llinell gymorth Byw Heb Ofn. Gallech fod yn achub bywyd.

"Mae gwasanaethau arbenigol yn parhau i fod ar agor ac maent ar gael i helpu dioddefwyr trais neu gamdriniaeth drwy gydol cyfnod y Nadolig, ac yn ystod cyfnod y cyfyngiadau a fydd yn dilyn. Mae gwasanaethau i’r rheini sy’n cyflawni cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n gweithio i atal achosion o gam-drin domestig rhag digwydd, hefyd yn parhau i fod ar agor a byddant yn parhau i ddarparu cymorth.

"Ni fyddwch mewn trafferth os bydd angen ichi adael eich cartref i geisio cymorth ar unrhyw adeg ac mae gwasanaethau arbenigol ar agor ac yn weithredol. Bydd llochesi yn derbyn atgyfeiriadau, ac mae cymorth ar gael i'ch helpu.

"Rwyf am bwysleisio hyn – os ydych mewn perygl neu os oes angen ichi adael eich cartref i ddianc rhag cam-drin domestig, dylech wneud hynny – ni fyddwch mewn trafferth. Gallwch deithio i le bynnag y bo angen, a gall gwasanaethau arbenigol helpu i ddod o hyd i lety a chymorth brys sy’n addas i chi.

"Mae’r heddlu ledled Cymru yn ymateb i alwadau cam-drin domestig a thrais rhywiol. Os nad yw'n ddiogel i ddioddefwyr siarad, bydd yr heddlu'n ymateb i alwad 999 dawel – galwch 999, ac yna 55 pan fydd rhywun yn ateb i ddangos na allwch siarad, ond bod angen help arnoch.

"Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar agor i roi cymorth a chyngor 24 awr y dydd, bob dydd, gan gynnwys dydd Nadolig a dydd Calan. Ddylai neb fod yn ofnus gartre. Mae cymorth ar gael. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun."

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

"Rydym yn gwybod bod achosion o drais a cham-drin domestig yn cynyddu ar adegau pan fydd teuluoedd a chyplau yn treulio mwy o amser gyda'i gilydd gartref.

"Felly, er bod llawer ohonom yn edrych ymlaen at y cyfle i ffurfio 'swigen Nadolig' gydag anwyliaid, hyd yn oed os mai dim ond yn rhithiol y gallwn gwrdd â phobl, mae cyfnod yr ŵyl yn golygu treulio hyd yn oed mwy o amser gyda phartner neu aelod o'r teulu sy'n achosi niwed i ddioddefwyr.

"Rydym am ichi wybod bod yr Heddlu a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i fynd i'r afael â’r broblem, hyd yn oed yn ystod cyfnod y gwyliau a hyd yn oed yn ystod y Pandemig."

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan:

"Os ydych yn anafu eich partner, eich plentyn neu aelod arall o'ch teulu, rwy'n eich annog i gael help i newid eich ymddygiad oherwydd ni fyddwn yn goddef trais a cham-drin domestig.

"Amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yw ein prif flaenoriaeth, ac er gwaethaf yr heriau sydd wedi deillio o argyfwng y coronafeirws, rwyf am sicrhau ein cymunedau ein bod yn dal i ymateb i ddigwyddiadau, rydym yn dal i arestio camdrinwyr, ac rydym yn dal i gyhuddo camdrinwyr.

"Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd siarad am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, ond os gallwch chi gymryd y cam cyntaf hwnnw a chysylltu â'r heddlu neu'r gwasanaeth Byw Heb Ofn, byddwn yn gweithio gyda chi i'ch cadw'n ddiogel."

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent:

"Yn anffodus rydym yn gwybod y gall y Nadolig fod yn gyfnod llawn ofn i lawer.

"Eleni rydym yn arbennig o bryderus gan ein bod yn gwybod bod achosion o dreisio, trais rhywiol a cham-drin domestig wedi cynyddu yn ystod y pandemig Covid-19.

"Os ydych chi'n cael eich cam-drin, neu'n amau bod rhywun rydych chi'n ei adnabod yn cael ei gam-drin, yna peidiwch â dioddef yn dawel; mae cymorth ar gael. Rwy’n eich annog i ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn, a galw 999 mewn argyfwng bob amser."