- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
21 Rhag 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi Strategaeth Gorfforaethol bum mlynedd sy’n amlinellu sut y bydd yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus ac yn annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy.
Mae’r sefydliad dielw, sy’n eiddo’n gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru, yn darparu rhaglen drawsnewidiol a fydd yn gwella llwybrau trên, bysiau a theithio llesol.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021’ a amlygodd y rôl bwysig sydd gan trafnidiaeth gyhoeddus yn helpu i gyrraedd statws sero-net erbyn 2050. Mae’r strategaeth newydd hon gan Trafnidiaeth Cymru yn nodi eu cynllun pum mlynedd er mwyn helpu i gyflawni hyn.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
"Yn TrC, rydym yn gweithio i wella trafnidiaeth gyhoeddus ac am weld llai o bobl yn defnyddio'r car a mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn olwynio, cerdded a beicio. Rydym yn buddsoddi mewn rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ac yn canolbwyntio ar greu rhwydwaith mwy cydgysylltiedig ar draws pob dull o deithio.
“Fe wyddom bod rhai heriau o’n blaenau wrth i ni wynebu cyfnod o ansicrwydd ariannol a chostau byw cynyddol. Mae'r rhyfel yn yr Wcrain wedi rhoi pwysau ar gost deunyddiau ac rydym yn dal i ymgyfaryddo o ganlyniad i'r pandemig byd-eang.
“Fodd bynnag, rydym wedi parhau i fod yn ymrwymedig i'n nodau ac mae'r strategaeth newydd hon yn rhoi amlinelliad clir o sut y byddwn yn eu cyflawni. Gyda threnau newydd sbon a bysiau trydan newydd yn dod i mewn i wasanaeth ar ddechrau 2023, rydym yn parhau i symud ymlaen gyda’n cynlluniau trawsnewidiol.”
Strategaeth gorfforaethol, 2021-26 | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)
Gallwch ddarllen y diweddariad diwethaf gan James Price, ein Prif Weithredwr, yma Strategaeth 5 Mlynedd ar gyfer Trafnidiaeth yng Nghymru (trc.cymru)