English icon English

Neges Nadolig 2022 gan Brif Weinidog Cymru

First Minister of Wales’ 2022 Christmas message

Yn ei neges Nadolig mae Mark Drakeford yn dweud:

Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen i chi i gyd, gan obeithio y cewch chi heddwch ac amser i orffwyso.

Am y tro cyntaf ers i’r pandemig ddechrau, rydym yn cael cyfle i dreulio amser gyda ffrindiau a theulu – fel rydym wedi arfer gwneud am flynyddoedd o’r blaen.

Wrth wneud hynny, rhaid cofio am y bobl sydd ddim yn gallu bod gyda’u teuluoedd’ – y rhai sy’n dioddef rhyfel a newyn, ledled y byd.

Mae’r Nadolig yn amser o haelioni; rhoi i eraill; a chynnal ysbryd y gymuned.

Meddyliwn hefyd am yr holl bobl a fydd yn gweithio dros y Nadolig i’n cadw ni yn ddiogel.

O’r gweithwyr trydydd sector a chymunedol i staff y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau brys.

Diolch yn fawr i chi am bopeth rydych yn wneud.

Felly dyma ddymuno gŵyl hapus, dedwydd a heddychlon i bawb.

Nadolig Llawen i chi gyd