English icon English
Eryri-Gogledd-North Wales-Fibre-Broadband-Gigabit-Copyright Welsh Government 2022

Mae ymgynghoriad wedi agor ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol sicrhau cyflymder lawrlwytho o 1 gigadid yr eiliad ym mhob cartrefnewydd sy’n cael ei adeiladu

Gigabit? Gigalot! Consultation opens on proposals to require all new homes built with download speeds of 1Gbps

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr tai sicrhau bod pob tŷ newydd sy’n cael ei adeiladu yn gallu derbyn cysylltiad band eang gigadid.

Mae cysylltedd digidol yn gynyddol bwysig i bobl ledled Cymru o ran cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, gweithio gartref neu gyrchu gwasanaethau cyhoeddus. Pan fo cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, rydyn ni eisiau sicrhau bod cysylltiadau’n gyson ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i uwchraddio ein seilwaith digidol a chyfathrebu drwy ei Rhaglen Lywodraethu a’r Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Bydd y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad hwn yn diwygio rheoliadau adeiladu i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr sicrhau:

  • bod y seilwaith ffisegol a all ymdrin â chyflymder gigadid – sydd ei angen ar gyfer cysylltiadau a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid – yn cael ei osod ym mhob cartref newydd;
  • bod cysylltiad a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid yn cael ei osod mewn cartrefi newydd, hyd at uchafswm cost o £2,000 fesul annedd;
  • neu fod y cysylltiad band eang cyflymaf nesaf yn cael ei osod pan nad yw cysylltiad a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid yn cael ei osod, a hynny heb ragori ar yr uchafswm cost o £2,000.

Mae cysylltiadau digidol cyflym a dibynadwy yn bodloni llawer o’r nodau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae sicrhau cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy mewn cartrefi newydd yn helpu i gynnal cymunedau cydlynus yng Nghymru drwy gefnogi pobl i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd, gan leihau ynysigrwydd cymdeithasol a’i gwneud yn fwy hwylus cyrchu gwasanaethau cyhoeddus. Mae hefyd yn bodloni gofynion creu Cymru decach drwy hwyluso mynediad i gyfleoedd addysgol a chyfranogi mewn gweithgareddau dinesig ar-lein.

Mae’r cynnig hwn hefyd yn cefnogi amcanion Cymru’r Dyfodol, sef fframwaith datblygu cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae’r fframwaith hwn yn cynnwys yr amcan i gefnogi’r gwaith o ddarparu seilwaith a gwasanaethau cyfathrebu digidol ar draws y wlad.

Bydd y cynnig hwn i “gyflenwi cysylltiad a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid” yn ymwneud â ffeibr yn bennaf, a bydd yn ofynnol i ddatblygwyr osod pibelli tanddaearol i’w gwneud yn bosibl gwneud cysylltiadau ag adeiladau.

Bydd yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd heddiw yn cau ar 28 Ebrill 2023, a chaiff yr ymatebion eu cyhoeddi ar ôl hynny. Caiff y ddeddfwriaeth ei gosod gerbron y Senedd yn ddiweddarach.

Mae’r gofynion arfaethedig newydd wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r arferion datblygu tai presennol. Bydd hyn yn sicrhau bod pob datblygwr yn cymryd y camau angenrheidiol i osod seilwaith a all ymdrin â chyflymder gigadid, a chysylltiadau a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid mewn cartrefi newydd wrth leihau’r baich ar yr un pryd.

Bydd y rheoliadau newydd yn ei gwneud yn ofynnol gosod y seilwaith sydd ei angen i gynnal o leiaf un cysylltiad a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid ym mhob annedd (gan gynnwys ym mhob annedd unigol mewn aneddiadau amlfeddiannaeth). Mae hyn yn cynnwys seilwaith o fewn adeiladau, a’r tu allan iddynt, a leolir unrhyw le ar y safle megis yn y llwybr troed, y dreif neu’r ardal gyffredin sy’n arwain at yr adeilad.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“Mae cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy yn gyfleustod hanfodol. Mae’n hwyluso mynediad at gyfleoedd dysgu gydol oes a gwasanaethau cyhoeddus, yn mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol, yn galluogi pobl i weithio gartref ac yn dod â phobl ynghyd i fynd i’r afael â materion lleol a byd-eang. Yn ddiamau, yn sgil y pandemig, mae llawer mwy o sylw’n cael ei roi i’r galw am gysylltiadau da sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Bydd y cynigion rydyn ni’n ymgynghori arnyn nhw yn ein helpu i symud ymhellach ac yn gyflymach tuag at sicrhau bod ein cartrefi’n addas ar gyfer y dyfodol. Rwy’n annog unigolion, busnesau, elusennau a phawb arall i ymateb i’r ymgynghoriad ac i ddweud eich dweud!”

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

“Mae cysylltiadau band eang eisoes yn safonol mewn llawer o ddatblygiadau, ond maen nhw’n hanfodol gan fod cynifer o bobl yn gweithio gartref. Drwy ei gwneud yn ofynnol i bob datblygwr tai gynnwys cyfarpar a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid pan fyddan nhw’n adeiladu tai newydd, bydd y cynigion hyn yn helpu i sicrhau y gallwch gymryd yn ganiataol y byddwch chi’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd, dim ots ble rydych chi’n byw. Rwy’n annog pawb â buddiant yn y mater hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad fel y gallwn ni bwyso a mesur safbwyntiau’r cyhoedd ar y cynigion pwysig hyn.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Background

  • Gigabit broadband refers to speeds of 1Gbps (one gigabit per second) or faster. A gigabit is equivalent to 1,000Mbps (one thousand megabits per second).
  • The Digital Strategy for Wales may be found here [HTML]
  • The Programme for Government may be found here [PDF]
  • Information relating to the Well-being of Future Generations Act (2015) may be found here [Web]
  • Currently there are no requirements in law for new build homes relating to gigabit-ready physical infrastructure or gigabit-capable connections.

Proposal

The proposal will require developers ensure new build homes have gigabit-capable connections through the installation of:

  • the gigabit-ready physical infrastructure necessary for gigabit-capable connections (consisting of infrastructure including ducts, chambers and termination points) up to an off-site network distribution point where reasonably practicable; and
  • subject to a £2,000 cost cap per dwelling, a gigabit-capable connection (composed of equipment such as an optical fibre cable, other cabling or wiring, or wireless connection that will provide gigabit-capable broadband if such a service were to be provided by an Internet Service Provider).

Exceptions

  • Where a developer is unable to meet the second requirement and secure a gigabit-capable connection, for example because the developer costs incurred after any network operator contribution exceed the cost cap or another exemption applies a developer will be required to install the next best technology connections available unless the quote for that installation also exceeds the cost cap.
    • In the first instance this should be at least a superfast 30 Mbps connection and failing that:
    • a broadband connection in line with the Broadband Universal Service Obligation’s download speed, as set out in the Universal Service Order 2018 (Electronic Communications (Universal Service) (Broadband) Order 2018 – SI 2018/445). This is currently a connection delivering at least 10 Mbps download speed
  • Where no connection can be secured without exceeding the cost cap, the first requirement to install gigabit-ready physical infrastructure necessary for gigabit-capable connections will ensure that the new build home is future-proofed and ready for gigabit connectivity unless any further exemption based on the remoteness of the property is appropriate.
  • In the absence of a broadband connection in line with a Broadband Universal Service Obligation connection, a consumer will normally be able to make a request for a Universal Service Obligation connection or apply to the Access Broadband Cymru grant scheme in Wales.