Skip to main content

Back to work – cheap TfW rail tickets

09 Ion 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig tocynnau trên rhad i gwsmeriaid i’w hannog i deithio'n gynaliadwy y flwyddyn newydd hon.

Gall cwsmeriaid brynu 12 taith am bris 6 gyda phob tocyn Multiflex, gan gynnig ffordd llawer rhatach i gymudwyr a defnyddwyr aml deithio. 

I’r rhai sydd am wneud dewisiadau mwy cynaliadwy eleni a helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, mae manteisio ar y cynnig hwn, gadael y car gartref a dewis trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd wych o ddechrau 2023. 

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth: “Bydd y cyhoeddiad heddiw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a theuluoedd sy’n cael anhawster i gadw dau ben llinyn ynghyd wrth i ni wynebu’r argyfwng costau byw.

“Yn ogystal â helpu i roi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl, bydd y cynnig hwn hefyd yn rhoi hwb i’r diwydiant rheilffyrdd ac yn annog mwy o bobl i deithio’n fwy cynaliadwy.”

Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn deall bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar ein cwsmeriaid a hoffem chwarae ein rhan a helpu lle gallwn ni.  Rydym yn dal eisiau eu hannog i deithio’n gynaliadwy a dewis defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

“Rydym yn falch o gynnig ystod o fargeinion teithio rhatach ar y trên ym mis Ionawr yn  y gobaith y bydd hyn yn helpu mewn cyfnod ariannol anodd.”   

Nodiadau i olygyddion


Tocynnau Multiflex am bris gostyngol (12 taith am bris o 6) ar werth 9-31 Ionawr 2023.

Tocynnau yn ddilys am 3 mis o'u prynu.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i trc.cymru/multiflex

Sêl ar Docynnau Advance (40% i ffwrdd) ar gael 16 -29 Ionawr 2023, ar gyfer teithiau rhwng 30ain Ionawr a 5ed Mawrth.  Yn amodol ar argaeledd.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i trc.cymru/multiflex

Sêl ar Docynnau Trên Lleol (gostyngiad o 25%) ar gael 9-31 Ionawr 2023.

Llwytho i Lawr