English icon English
Cardiff Castle Collection Image 1 Courtesy of Glamorgan Archives-2

Cyfrinachau pensaernïol Castell Caerdydd ymhlith casgliadau sydd wedi'u diogelu yng Nghymru

Architectural secrets of Cardiff Castle amongst collections being protected in Wales

Bydd pedwar sefydliad diwylliannol Cymreig yn cael eu hariannu drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r National Manuscripts Conservation Trust (NMCT).

Yr NMCT yw'r unig roddwr grantiau yn y DU sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ofal a chadwraeth llawysgrifau yn y DU.

Casgliad o oddeutu 2,000 o luniau a phaentiadau wedi'u casglu gan William Burges, y pensaer a'r dylunydd uchel ei barch, sy'n ymwneud â'i ailddatblygiad o Gastell Caerdydd o 1868 hyd ei farwolaeth ym 1881. Cynhelir y casgliad yn Archifau Morgannwg a bydd cadwraeth y casgliad yn sicrhau bod gwaith adfer y Castell yn cael ei wneud mewn modd wybodus sy’n cyd-fynd â’i gyfnod mewn blynyddoedd i ddod; gan ddiogelu un o dirnodau mwyaf eiconig y Brifddinas

Ymhlith y prosiectau eraill sy'n cael eu hariannu mae:

Firing Line Museum – Mae Cyfarwyddiadau Recriwtio Gwarchodlu Dragŵn y Brenin yn 1787 yn esbonio'r broses o ymuno gydag uwch gatrawd Gwarchodlu Dragŵn y Brenin ac mae'n cynnwys cyfarwyddiadau ar faterion megis talu a phrynu, iechyd a meddygaeth, crefydd, cysylltiadau rhyng-gatrodol a sefyllfa sifil y recriwtiaid. Bydd cadwraeth yn sicrhau bod y darn prin hwn o hanes milwrol yn cael ei gadw.

Archifau Gwent – Mae'r casgliad hwn o Adroddiadau Arolygu Cyn Shifftiau Glofa Gogledd Rhisga (1920au hyd at 1960au) yn cwmpasu cyfnod o newid a gweithgarwch mawr yn y diwydiant, o streiciau ac anawsterau economaidd y 1920au, drwy'r ail ryfel byd a gwladoli ym 1947. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau y bydd catalog ar gyfer y casgliadau ar gael ar-lein i ymchwilwyr am y tro cyntaf. 

Amgueddfa Abertawe – Bu’r menywod busnes arloesol, Elizabeth 'Bessie' Dillwyn yn arbrofi gyda dyluniadau a mathau o seramig yng Nghrochendy enwog Cambrian  (oddeutu 1836), mae ei brasluniau yn cael eu gwarchod a'u harddangos ochr yn ochr â'r darnau gorffenedig o fewn casgliad yr amgueddfa.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip, Dawn Bowden:

"Mae'r bartneriaeth hon, a sefydlwyd yn 2008 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn parhau i ehangu mynediad at gasgliadau o arwyddocâd cenedlaethol yng Nghymru. Bydd prosiectau eleni yn sicrhau mwy o fynediad i orffennol diwydiannol a chatrodol Cymru ac yn sicrhau gwell dealltwriaeth o hanes un o adeiladau mwyaf eiconig ein prifddinas, Castell Caerdydd, am flynyddoedd i ddod. Rwy'n ddiolchgar i Ymddiriedolwyr NMCT am eu cefnogaeth barhaus i gadw ein treftadaeth archifol gyfoethog."

Dywedodd yr Athro David McKitterick, Cadeirydd NMCT: "Unwaith eto roedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn falch o gydweithio â Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gofal a'r cadwraeth o ystod o ddeunydd, gan gynnwys lluniadau syfrdanol William Burges ar gyfer Castell Caerdydd, dyluniadau ar gyfer serameg enwog, cipolwg anarferol ar fywyd y fyddin yn y ddeunawfed ganrif a chofnodion pwysig y diwydiant glo. Bydd y rhain nawr ar gael er mwyn i'r cyhoedd eu mwynhau a'u deall o rannau allweddol o hanes Cymru dros nifer o flynyddoedd i ddod."