English icon English
CMO at podium Frank Atherton

Y Prif Swyddog Meddygol yn atgoffa pobl i gynnal y camau amddiffyn rhag ffliw a COVID y gaeaf hwn

Chief Medical Officer reminds people to keep defences up against flu and COVID this winter.

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod acchosion o'r ffliw, COVID-19 a firysau anadlol tymhorol eraill wedi cynyddu dros gyfnod y Nadolig ac yn parhau i fod ar lefelau uchel iawn. Heddiw (6 Ionawr) mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyfraddau COVID-19 yng Nghymru wedi codi o 2% i 5%.

Dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru: "Mae'n bwysig cofio nad yw COVID-19 wedi diflannu a bod lefelau uchel o ffliw a firysau anadlol tymhorol eraill ar led yn ein cymunedau o hyd, sy'n rhoi baich sylweddol ar ein system iechyd a gofal.

"Dydyn ni ddim yn gwbl imiwn i'r naill feirws na'r llall ac mae'n rhaid inni gynnal ein camau amddiffyn er mwyn parhau i ddiogelu Cymru a lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Rwy'n annog unrhyw un sydd â symptomau annwyd, ffliw neu COVID i geisio aros gartref a pheidio ymweld â lleoliadau iechyd a gofal, ac i ddal i olchi eu dwylo’n aml. Os oes gennych symptomau ac os oes rhaid ichi fynd allan, gwisgwch orchudd wyneb.

"Os ydych chi’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu COVID neu frechlyn ffliw ac nad ydych chi wedi cael eich pigiad eto, manteisiwch ar y cynnig er mwyn diogelu eich hun, eich anwyliaid a'n cymunedau. Yn yr un modd, os oes gennych chi blant sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw drwy chwistrelliad trwyn, mae'n bwysig iawn eu bod yn eu gael er mwyn diogelu eu hunain a chyfyngu ar ledaeniad y feirws.  Edrychwch ar wefan eich bwrdd iechyd i gael rhagor o wybodaeth.

"Mae ymateb y cyhoedd wrth ddelio â COVID wedi bod yn rhagorol yng Nghymru ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb am weithio gyda ni i ddiogelu Cymru a diogelu ein gwasanaeth iechyd."