English icon English

Ymateb y Gweinidog Newid Hinsawdd i'r cytundeb COP15

Minister for Climate Change's response to COP15 agreement

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi ymateb i'r cytundeb y cytunwyd arno yn COP15 ym Montreal

Dywedodd y Gweinidog

Mae’r newyddion newydd ein cyrraedd bod cytundeb wedi’i wneud yn COP15.

Mae’n rhy gynnar eto i allu siarad am fanylion, ond mae’n edrych yn debyg bod bargen wedi’i tharo – bod pobl gynhenid yn cael eu diogelu a bod cytundeb ar y targedau ac ar agweddau ar y cyllid.

Bydd rhaid craffu ar y manylion. Ni fydd yn debygol o fod yn ddigon cryf o ran rheoli plaladdwyr a rhai agweddau eraill, ond yr hyn sy’n bwysig yw sut y caiff y cyfan ei roi ar waith.  Bydd rhaid taro’r targedau hyn erbyn diwedd y degawd a bydd Cymru’n bendant yn chwarae ei rhan i wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd.

I ni, o ran y dyfodol, byddwn yn pennu’n targedau 30x30, byddwn yn creu’n mesurau i ddiogelu’r amgylchedd a byddwn yn dysgu oddi wrth bobl o bob cwr o’r byd – yn enwedig pobl Quebec – ar adfer coedwigoedd a natur.  Byddwn yn gallu arwain y byd, wy’n credu, o ran mynd o’r lle rydym ni nawr i sicrhau statws amgylcheddol da ar 30% o’n tir erbyn 2030.

Beth oedd yn wych pan oeddem ni yno (yn COP) oedd y pwysau oedd yn cael ei roi gan seithfed uwchgynhadledd ICLEI – cynghrair llywodraethau, taleithiau, dinasoedd a rhanbarthau is-genedlaethol o bob rhan o’r byd. Roedd y pwysau’n dod o’r gwaelod i fyny ar wledydd y Cenhedloedd Unedig i wneud rhywbeth.  Gobaith mawr y byd yw mai’r bobl hynny, ar lawr gwlad, fydd yn rhoi’r ddeddfwriaeth a’r mesurau diogelu ar waith. Y pwyslais nawr yw cadw’r cynghreiriau byd-eang hyn, rhoi pethau ar waith cyn gynted ag y medrwn ni a pharhau i bwyso ar y Lywodraeth DU a gwledydd eraill y Cenhedloedd Unedig i neilltuo’r arian – a siarad yn blaen, i wneud yn ogystal â dweud.