English icon English

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru

Welsh Government response to latest NHS Wales performance data

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ym mis Hydref, gwelwyd y gostyngiad cyntaf yn nifer y llwybrau cleifion* sy’n aros i ddechrau triniaeth ers mis Ebrill 2020. Er i’r lefelau uchaf erioed o alw ar y gwasanaeth ambiwlans gael eu cofnodi ym mis Tachwedd, roedd yna hefyd rywfaint o welliant ym mherfformiad adrannau brys. 

“Cafodd mwy na 376,000 o ymgyngoriadau+ eu cynnal ym mis Hydref mewn ysbytai yn unig a chaewyd dros 106,000 o lwybrau cleifion, cynnydd o 12.8% ers y mis blaenorol.

“Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud i leihau’r amseroedd aros hiraf. Mae’r nifer sy’n aros am ddwy flynedd am driniaeth wedi lleihau am y seithfed mis yn olynol. Mae hyn yn ostyngiad o 23% ers y brig ym mis Mawrth. Fe wnaeth cyfran y llwybrau sy’n aros llai na 26 wythnos gynyddu’r mis hwn gyda’r nifer sy’n aros dros 36 wythnos yn lleihau.

“Fe wnaeth nifer y llwybrau sy’n aros am fwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol leihau am yr ail fis yn olynol. Cafodd mwy o gleifion nag erioed, sef 14,412 o bobl eu gweld a chael gwybod nad oedd canser arnynt. Mae hyn 4% yn uwch na’r mis blaenorol. Er i berfformiad ostwng ychydig yn erbyn y targed 62 diwrnod, dechreuodd mwy o bobl ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar gyfer canser ym mis Hydref 2022 o’i gymharu â mis Medi 2022. 

“Roedd cyfran y llwybrau sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi wedi gostwng 4.9% a 4.1% yn y drefn honno o’i gymharu â’r mis blaenorol.

“Mae ein staff yn y gwasanaeth ambiwlans ac mewn adrannau brys yn parhau i fod o dan bwysau cynyddol. Ym mis Tachwedd, gwelwyd y nifer uchaf a’r gyfran uchaf ar gof a chadw o alwadau ‘coch’/ galwadau sy’n bygwth bywyd ar unwaith a chynnydd yng nghyfanswm y nifer a fynychodd gyfleusterau. Roedd y niferoedd hyn yn debyg i lefelau cyn y pandemig. Fodd bynnag, fe wnaeth perfformiad wella yn erbyn y targedau pedair awr a deuddeg awr, a bu gostyngiad yn yr amser aros ar gyfartaledd am asesiad gan feddyg.

“Er ein bod yn cydnabod nad yw perfformiad ambiwlansiau gystal ag yr ydyn ni’n disgwyl iddo fod, rydym yn arwain gwelliannau i’r system. Mae hyn yn cynnwys ymestyn gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod i fod ar gael saith diwrnod yr wythnos, gwella’r modd y caiff cleifion 999 eu rheoli ar y ffôn a recriwtio staff ychwanegol. Heb yr holl bethau hyn byddai’r pwysau ar y system yn fwy fyth.”

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau

* Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl amryw o lwybrau ar agor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.

+ Nid yw’n cynnwys gwasanaethau mamolaeth na gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae gwybodaeth reoli newydd yn awgrymu ym mis Hydref 2022, pan oedd tua 753,000 o lwybrau cleifion ar agor, roedd ychydig dros 589,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaeth yng Nghymru. Roedd hyn yn ostyngiad o bron i 1,600 o gleifion ers y mis blaenorol.

Nid oes modd cymharu ystadegau rhestrau aros yn uniongyrchol ar draws pedair gwlad y DU. Rydym wedi cyhoeddi blog y Prif Ystadegydd sy’n trafod hyn yma.