English icon English

Gweision sifil Cymru yn derbyn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd

Welsh civil servants receive New Year’s Honours

Mae Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru wedi llongyfarch yr aelodau o staff sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer anrhydeddau ar restr y Flwyddyn Newydd.

Dywedodd Dr Andrew Goodall eu bod yn gydnabyddiaeth o waith eithriadol yr holl weision sifil yn ystod blwyddyn heriol.

Mae'r enwebiadau'n adlewyrchu'r ymrwymiad i ddiogelu iechyd y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus. Y bobl sy'n derbyn anrhydedd yw:

  • Andrea Street – OBE – Am wasanaethau i Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru
  • Jo-Anne Daniels – OBE – Am wasanaethau i Iechyd y Cyhoedd ac Addysg yng Nghymru
  • Felicity Bennee – OBE – Am Wasanaeth Cyhoeddus
  • Stephen Barry – MBE – Am wasanaethau i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru

Dywedodd Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru:

“Llongyfarchiadau gwresog i’r holl staff sydd wedi cael eu henwebu ar restr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Mae’r gwobrau’n destament i’r gwaith caled a’r ymrwymiad ganddyn nhw a’u cydweithwyr eleni. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol a phrysur, ond rwy’n falch bod gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn broffesiynol a gydag ymrwymiad gwirioneddol fel bob amser”.