English icon English
Jane Hutt profile photo Nov 2019-2

Cyfleusterau cymunedol yng Nghasnewydd a Chwmbrân yn elwa ar gyllid ychwanegol ‘hanfodol’ er mwyn talu costau cynyddol

Community facilities in Newport and Cwmbran benefit from ‘crucial’ additional funds to meet rising costs

Bydd cyfleusterau cymunedol yng Nghasnewydd a Chwmbrân yn elwa ar gyllid ychwanegol ‘hanfodol’ gan Lywodraeth Cymru er mwyn eu galluogi i orffen gwaith adnewyddu.

Roedd hi wedi bod yn anodd aros o fewn cyllidebau gwreiddiol y prosiectau oherwydd costau cynyddol cyflenwadau adeiladu.

Mae 15 o brosiectau i gyd ledled Cymru yn cael cyllid gwerth cyfanswm o £467,000 yn y cylch hwn o’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol. Roedd hyn yn cynnwys £164,000 tuag at ddeg prosiect llai, pob un yn cael grant o dan £25,000.

Bydd mwy na £303,000 o gyllid ychwanegol yn mynd tuag at bum prosiect mwy o faint.

Gall symiau bach o gyllid grant ddarparu newid mawr i gyfleusterau cymunedol.

Mae cyllid y rhaglen yn mynd at brynu a gwella cyfleusterau sy’n darparu cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae pedwar o’r prosiectau wedi eu lleoli yng Nghasnewydd a Chwmbrân.

Mae’r rhain yn cynnwys £11,000 tuag at uwchraddio’r gegin a’r gofod chwarae i greu canolfan glyd dros fisoedd y gaeaf yn Victory Church yng Nghwmbrân, Torfaen; £25,000 yn Eglwys Bedyddwyr Mount Pleasant ym Maesycwmwr i adnewyddu’r to ac i adeiladu estyniad fydd yn cynnwys cegin ac ystafelloedd cyfarfod; £18,220 i Gadetiaid Môr Casnewydd er mwyn ailwampio ardal y toiledau a’r cawodydd er mwyn darparu toiled a chawod hygyrch ychwanegol; a £25,000 i Gymdeithas Gymunedol Pontnewydd, Torfaen er mwyn gwneud ardaloedd mewnol ac allanol yr adeilad yn ddiogel, gan gynnwys gosod lloriau newydd a waliau terfyn, ffensio, ac uwchraddio goleuadau.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: “Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn hanfodol er mwyn gallu gorffen y prosiectau mwy o faint hyn fel y gall cymunedau ledled Cymru elwa arnynt.

“Oherwydd costau cynyddol deunyddiau, mae eu cyllidebau wedi eu gwasgu wrth iddynt ddod at ddiwedd eu prosiectau. Ni fyddent wedi gallu gwneud gwaith hanfodol fel trwsio toeon, gosod ffenestri newydd na gwneud gwelliannau arbed ynni heb gymorth ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn gallu mwynhau’r cyfleusterau cymunedol hyn pan fyddant wedi eu gorffen, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed am y cynnydd a wneir arnynt.”

Dywedodd Clyde Thomas, Gweinidog Arweiniol Victory Church yng Nghwmbrân: "Bydd y cyllid a ddarparwyd yn caniatáu inni uwchraddio ein gofod blaen y tŷ a chreu lle gwych i weithio, chwarae, cadw’n gynnes a chael bwyd.

“Yn ystod y cyfnod hwn sydd yn dod yn fwy ac yn fwy heriol i nifer o deuluoedd lleol, mae’r eglwys yn ceisio bod yn bwynt cyswllt cymunedol gwerthfawr sy’n cynnig gobaith a chymorth i bawb.” 

Nodiadau i olygyddion

The Community Facilities Programme funds projects up to £300,000 for building purchases or larger refurbishment projects and up to £25,000 for smaller projects.

More information about the community projects here

The smaller projects include:

  • Bridgend Lifesavers Credit Union, Bridgend, £24,500 to renovate and refurbish their newly purchased building located in the centre of Bridgend. This will help them to provide services for the whole community.
  • Mount Pleasant Baptist Church, Maesycwmmer, £25,000 to repair their roof and to build an extension to include a kitchen and meeting rooms.
  • Prestatyn Men’s Shed, Denbighshire, £9,836 to install solar panels and insulate their conservatory.
  • Brighter Futures, Rhyl, Denbighshire, £17,870 to build an extension to the workshop and make energy saving improvements such as insulation, new windows, underfloor heating and add solar panels to their existing system.
  • Newport Sea Cadets, Newport £18,220 for the reconfiguring of the toilet and shower area to provide an additional accessible toilet and shower.
  • Bluegreen Cymru, Teifi Woods, Pembrokeshire £13,000 to make their woodland space more accessible all year round. The project will make physical adaptations and improve the infrastructure including new paths, building two log sheds, installing solar panels and providing a covered area for family use during bad weather. 
  • St Thomas Church Hall Clydach Vale, RCT £20,000 to make urgent repairs to the roof to prevent water ingress.
  • Pontnewydd Community Association, Torfaen £25,000 to make the internal and external areas of the building safe to include new floors, boundary walls, fencing and upgrade the lighting.
  • Victory Church, Cwmbran, Torfaen £11,000 to upgrade their kitchen, re-floor the front of house area and upgrade the Ark play space to create a warm hub during the winter months.

The larger projects include:

  • Aberporth Village Hall, Ceredigion £50,000 rebuilding one property and modernising and refurbishing an adjoining building to include the updating of the kitchen, toilets, improve disabled accessibility plus increase energy efficiency. Due to the rise in costs, they are seeking additional funds. 
  • New Life Church, Cardigan, Ceredigion £50,000 to purchase the building and refurbish it to include a new kitchen, community meeting area and family activity centre. They are asking for additional funds to complete the installation of new windows to ensure the building is more sustainable for energy costs
  • Tabernacl Bethesda Gwynedd £50,000 asked for funding towards the cost of improving sound insulation and bringing outbuildings at the rear of the main hall into use as flexible space for music, dance and arts workshops. They are now asking for additional funds due to the rise in costs.
  • Hirwaun YMCA, RCT £87,100 to completely refurbish the Chapel and create a community hub and aging well centre. They are requesting additional funds due to the increase in costs of materials to finish off part of the project and install new windows which will make the project more energy efficient. 
  • Welsh Islamic Cultural Association, Sketty, Swansea £50,000 have received funding towards the cost of renovating a recently purchased building to create new classrooms.