English icon English

Cannoedd o welyau cymunedol ychwanegol i helpu pobl i adael yr ysbyty yn gynt y gaeaf hwn

Hundreds of extra community beds to help people leave hospital quicker this winter

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan wedi cyhoeddi mwy na 500 o welyau gofal llai dwys a phecynnau gofal cymunedol ychwanegol ar gyfer Cymru y gaeaf hwn, er mwyn helpu pobl i gael gofal yn agosach at eu cartrefi ac i ryddhau gwelyau ysbyty.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan wedi cyhoeddi mwy na 500 o welyau gofal llai dwys a phecynnau gofal cymunedol ychwanegol ar gyfer Cymru y gaeaf hwn, er mwyn helpu pobl i gael gofal yn agosach at eu cartrefi ac i ryddhau gwelyau ysbyty.

Bydd y gwasanaeth ‘Cam i Lawr’ yn cefnogi pobl i ddychwelyd i’w cymunedau pan na fydd angen triniaeth yn yr ysbyty arnynt mwyach ond efallai y bydd angen rhagor o amser, cymorth, a gofal arbenigol arnynt. Mae gwasanaethau gofal yn y ­cartref yn cael hwb hefyd i alluogi rhagor o bobl i ddychwelyd i’w cartrefi eu hunain.

Mae 508 o welyau a phecynnau gofal cymunedol ychwanegol wedi’u cadarnhau gan fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol hyd yn hyn, ac mae llawer mwy yn cael eu trafod ar hyn o bryd.

Cânt eu darparu drwy gyllid Cronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac adnoddau’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd eu hunain.

Yr wythnos hon, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi £70 miliwn ychwanegol i sicrhau y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae hynny’n rhan o ymdrechion ehangach i recriwtio a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol a chryfhau’r sector i helpu i gefnogi’r GIG wrth iddo wynebu un o’i aeafau anoddaf.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Mae ein gwasanaeth iechyd yn wynebu galw digynsail y gaeaf hwn. Ond rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl yn aros yn yr ysbyty yn hirach nag sydd angen. O ganlyniad, mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar bobl sy’n aros am lawdriniaethau ac yn creu oedi ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ers misoedd i sicrhau bod gennym ddigon o welyau cymunedol y gaeaf hwn ac mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i sicrhau rhagor o welyau. Rwy’n gobeithio gallu cyhoeddi rhagor o welyau yn fuan. Drwy’r fenter newydd hon gallwn nid yn unig ofalu am bobl yn agosach at eu cartrefi ond hefyd ryddhau rhagor o welyau yn ein hysbytai.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Rydyn ni’n gwybod bod pawb eisiau dychwelyd i’w cymuned cyn gynted â phosib, yn dilyn arhosiad yn yr ysbyty. Ond mae’r prinder yn y gweithlu gofal cymdeithasol ar hyn o bryd yn golygu nad yw hynny bob amser yn bosib. Arhosiad tymor byr mewn cyfleuster ‘Cam i Lawr’, yw’r peth gorau nesaf, ac yna cynnal adolygiad a throsglwyddo’r unigolyn gartref cyn gynted â phosib.

Yr wythnos hon, fe wnaethon ni hefyd gyhoeddi buddsoddiad o £70 miliwn i weithwyr cymdeithasol gael y Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae hyn yn rhan o’n strategaeth tymor hwy i hybu recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol yng Nghymru ac i sicrhau y gall y system ofal ateb y galw yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: “Rydyn ni’n gwybod bod y sector iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan bwysau aruthrol. Bydd y pecynnau arloesol hyn yn helpu i ddatblygu capasiti camu ymlaen a gwella llif ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Byddant hefyd yn helpu i leihau pwysau ar feysydd fel rhyddhau pobl o’r ysbyty a’r effaith y gall hyn ei chael ar restrau aros am ambiwlans a derbyn pobl i’r ysbyty. Mae’r capasiti cynyddol hwn yn y gymuned, a grëwyd gan gynghorau drwy weithio mewn partneriaeth â’r sector iechyd ac a gefnogir gan ein darparwyr gofal cymdeithasol, yn enghraifft o’r atebion ymarferol sy’n dwyn ffrwyth yn sgil cydweithio rhwng y sector iechyd, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Gobeithiwn y bydd ganddo fanteision pendant ac effeithiau cadarnhaol i unigolion, yn enwedig dros gyfnod y gaeaf pan fo gwasanaethau yn parhau i fod o dan bwysau sylweddol.”

Mae pobl sy’n cael eu cyfeirio at gyfleusterau ‘cam i lawr’ yn cynnwys y rhai sy’n ddigon iach yn feddygol i adael yr ysbyty, nad ydynt bellach yn bodloni’r meini prawf ar gyfer gwely ysbyty acíwt ond sydd angen gwasanaethau gofal a chymorth na ellir eu darparu yn eu cartrefi eu hunain. Maent hefyd yn cynnwys pobl sydd angen arhosiad tymor byr gan eu bod yn cael eu hystyried yn anniogel i ddychwelyd i’w cartref tra maent yn aros am ddyddiad cychwyn ar gyfer pecyn gofal cymunedol.

Bydd unigolion, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn cael gwybodaeth am eu cynlluniau gofal.