English icon English

Gwerth allforion o Gymru yn adfer i lefelau uwch na chyn y pandemig, i gyfanswm o £19.4 biliwn

Welsh goods export values recover to beyond pre-pandemic levels to total £19.4 billion

Mae gwerth y nwyddau mae busnesau Cymru wedi'u hallforio wedi adfer i lefelau uwch na chyn y pandemig – cyfanswm o £19.4 biliwn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben fis Medi 2022, a chynnydd o fwy na thraean o'i gymharu â'r 12 mis diwethaf, ac £1.7 biliwn yn uwch na'r flwyddyn a ddaeth i ben fis Medi 2019, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cyhoeddi.

Mae'r ffigurau dros dro diweddaraf yn dangos bod busnesau sy'n allforio nwyddau o Gymru wedi dangos cryn gadernid yn wyneb heriau parhaus yn yr amgylchedd masnachu byd-eang, o'r rhyfel yn Wcráin i ansefydlogrwydd arian cyfred a chostau cludo ac ynni uwch.

Mae ysbrydoli busnesau i allforio, pan mai dyma'r peth cywir iddynt ei wneud, wedi bod yn rhan allweddol o hyn. Mae Ymgyrch Esiamplau Allforio Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at allforwyr llwyddiannus, ac mae cymorth dwys ar gael i fusnesau sydd â'r potensial i fasnachu'n rhyngwladol drwy'r Rhaglen Allforwyr Newydd.

Mae teithiau masnach ac arddangosfeydd mewn marchnadoedd ar draws Gogledd America, Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia hefyd wedi helpu cwmnïau i gwrdd â chwsmeriaid posibl wyneb yn wyneb, a rhoddwyd platfform ar gyfer dathlu a hyrwyddo allforwyr Cymru ledled y byd o ganlyniad i dîm pêl-droed dynion Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd FIFA.

Mae cymorth ar-lein hefyd wedi cael ei wella drwy’r Hyb Allforio, platfform digidol sy'n cael ei gynnal gan Fusnes Cymru sy'n cynnig mynediad at adnodd cynhwysfawr o wybodaeth allforio arbenigol ar gyfer cwmnïau. 

Ymhlith y cwmnïau o Gymru sydd wedi mwynhau llwyddiannau allforio'n ddiweddar, diolch i gymorth masnach gan Lywodraeth Cymru, mae'r cwmnïau o Ben-y-bont ar Ogwr TBD Owen Holland Ltd a Spectrum Technologies Ltd.

Mae Spectrum wedi datblygu technoleg a helpodd NASA i lansio'r roced gofod fwyaf pwerus erioed, Artemis 1, ym mis Tachwedd, er mwyn ceisio mynd â phobl yn ôl i'r lleuad am y tro cyntaf ers 50 mlynedd.  Fel arfer mae Spectrum yn allforio dros 95% o'i gynhyrchion bob blwyddyn, ac mae'n arwain y byd ym maes datblygu, gweithgynhyrchu a chyflenwi offer marcio weiar laser UV arbenigol ar gyfer y diwydiant awyrofod byd-eang.

Dywedodd Dr Peter Dickinson, Rheolwr Gyfarwyddwr Spectrum Technologies: "Am y 30 mlynedd diwethaf rydym wedi bod yn allforio mwy na 95 y cant o'n cynhyrchion i'r sectorau awyrofod ac electroneg byd-eang. Yn ogystal â'r holl awyrennau sy'n cael eu cynhyrchu ledled y byd gan ddefnyddio ein technoleg, rydym yn falch iawn bod ein hoffer yn cael ei ddefnyddio'n helaeth wrth gynhyrchu systemau lansio i'r gofod a chwiliedyddion rhyngblanedol i gefnogi gwaith archwilio'r gofod. Ers dechrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1990, rydym wedi cael cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cymorth a gawsom, yn y gorffennol a'r presennol, i hyrwyddo ein gweithgareddau allforio."

Gwnaeth TBD Holland LTD, sy'n gweithgynhyrchu offer cymorth ar y ddaear i awyrennau ar gyfer cwmnïau hedfan rhyngwladol mawr, ennill contractau allforio newydd gwerth £2.3 miliwn gyda gwledydd sy'n cynnwys yr Almaen, Israel, UDA a Gwlad Belg.  

Dywedodd Vicki Heycock, Cyfarwyddwr Cyllid TBD: “Mae’n busnes yn parhau i dyfu ac rydym yn dosbarthu ein cynnyrch i bob ban byd. Mae’r cynnydd yn y galw dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn llawer mwy na’r disgwyl a rhagwelwn y bydd hyn yn parhau yn 2023 a hynny er gwaethaf y rhagolygon economaidd gwael. Mae’n hymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn arloesedd ar draws ein dewis o gynnyrch yn sicr yn ffactor allweddol ar gyfer bodloni marchnadoedd rhyngwladol.”

Mae iVendi Ltd ym Mae Colwyn yn gwmni arall sydd wedi elwa ar gymorth allforio gan Lywodraeth Cymru. Enillodd gontract newydd yn yr Almaen gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer defnyddio ei feddalwedd ariannol ar gyfer y sector modurol. Mae'n symleiddio gwerthiannau ceir a phecynnau ariannu gyda delwriaethau cerbydau, ac mae'n cynnwys offerynnau i alluogi gwerthu cerbydau ar-lein.

Dywedodd James Tew, Prif Swyddog Gweithredol iVendi: "Mae'r cymorth rydyn ni wedi'i dderbyn gan dîm allforio Llywodraeth Cymru wedi bod yn wych. Mae wir wedi'n helpu ni i gael mynediad at wybodaeth hanfodol am y farchnad a nodi targedau posibl. Mae hyn wedi'n helpu ni i gyflymu ein cynlluniau rhyngwladol."

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i'w huchelgais i ysgogi rhagor o dwf yn sector allforio Cymru, yn enwedig gan fod gwerth nwyddau sy'n cael eu hallforio o Gymru yn is nag y byddent wedi bod oni bai am yr heriau sylweddol sy'n effeithio ar fasnach ar hyn o bryd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae problemau byd-eang wedi cael effaith sylweddol ar allforwyr Cymru sydd eisoes yn ymdrin â'r problemau a ddaeth o ganlyniad i'r DU yn gadael yr UE a phandemig COVID. Er hyn, rydyn ni’n parhau i gyflawni ein Cynllun Gweithredu uchelgeisiol ar Allforio, fel rhan o'n Rhaglen Lywodraethu, ac mae'r ffaith bod gwerth allforion Cymru bellach yn uwch na chyn pandemig y coronafeirws yn dangos cryfder ein busnesau allforio.

"Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig i'r byd, a byddwn yn gweithio'n agos gyda'n hecosystemau cymorth allforio i helpu busnesau yng Nghymru i ddatblygu eu masnach ryngwladol ac i adeiladau ar y sylfaen gadarn sydd wedi cael ei hadeiladu dros y 12 mis diwethaf.

"Gall allforio fod yn llwybr i ddyfodol ffyniannus i Gymru, ond nid oes modd rhagweld y sefyllfa o ran masnachu byd-eang, ac mae ein heconomi yn parhau i fod yn y broses adfer. Mae angen inni allu adweithio ac ymateb i amodau byd-eang, er mwyn diwallu orau anghenion busnesau sydd ar daith i lwyddiant allforio."