English icon English

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, gan amlinellu dadl gref dros adeiladu pedair gorsaf trenau newydd yng Nghymru.

The Minister for Economy, Transport and North Wales Ken Skates has written to the Secretary of State for Transport, setting out a strong argument to build four new railway stations across Wales.

Mae’r Llythyr yn gofyn i Grant Shapps fuddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau drwy gronfa Restoring Your Railways Llywodraeth y DU, nid yn unig i wella cysylltiadau rheilffordd, ond hefyd i roi hwb i adferiad Cymru yn dilyn COVID-19.

Gwnaeth adroddiad a gynhaliwyd ar ran y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, gan Drafnidiaeth Cymru, nodi pedair gorsaf newydd. Gronfa Gorsafoedd Newydd 3 a fyddai’n talu am y datblygiadau, a byddent yn barod yn gynnar yn 2024.

Rhoddid yr un flaenoriaeth i bob gorsaf, a byddent fel a ganlyn:

  • Parcffordd Glannau Dyfrdwy, ar Linell y Gororau yn y Gogledd
  • Carno, ar Brif Linell y Cambrian yn y Canolbarth
  • Sanclêr, ar Brif Linell y Great Western yn y Gorllewin
  • Melin Trelái, ar Linell y Ddinas yn y De

Yn ei lythyr, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn ysgrifennu:

“Nid wyf wedi eu trefnu yn ôl blaenoriaeth, am fod adroddiad Trafnidiaeth Cymru yn dangos bod achos cryf dros ddatblygu pob un o’r pedair gorsaf fel rhan o raglen integredig i wella mynediad at y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru. Bydd y pecyn hwn yn gwneud cyfraniad mawr at y gwaith o wella cysylltiadau rheilffyrdd, yn rhoi hwb i’n hadferiad yn dilyn COVID-19, ac yn datblygu ein trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y dyfodol. Bydd agor y gorsafoedd newydd hyn yn allweddol er mwyn Adeiladu Nôl yn Well.”

Bydd Parcffordd Glannau Dyfrdwy a Melin Trelái yn elfennau allweddol o’u gwahanol ddatblygiadau Metro, ac yn gwneud cyfraniadau mawr at gysylltiadau trefol, rhagor o swyddi/twf economaidd a llai o geir yn cael eu defnyddio..

Byddai’r gorsafoedd newydd yn Sanclêr a Charno yn ategu cyflogaeth gref a thwf economaidd drwy wella cysylltiadau rhanbarthol. Maent yn cael eu cefnogi’n helaeth gan y gymuned a thrydydd partïon o fewn cymunedau gwledig, lle mae’r drafnidiaeth gyhoeddus yn gyfyngedig, sydd wedi cael eu hanwybyddu yn y gorffennol, yn enwedig ers cau’r gorsafoedd a fu yn y cymunedau hyn, a ffatri Enwog Laura Ashley yng Ngharno.

Gwnaeth y Gweinidog Trafnidiaeth hefyd wahodd yr Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth i drafod blaenoriaethau eraill ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd, gan gynnwys gorsafoedd newydd ym Maesglas a Magwyr. Gwnaeth e awgrymiadau ar gyfer y Gronfa Syniadau Newydd, fel adfer gwasanaethau i deithwyr ar y llinell rhwng Gaerwen ac Amlwch ar Ynys Môn, a datganodd ddiddordeb mewn defnyddio’r gronfa Accelerating Existing Proposals i adfer y llinell a’r gwasanaethau i Abertyleri yn Ne Cymru. Achubodd hefyd ar y cyfle i dynnu sylw unwaith eto at gynlluniau eraill, gan gynnwys ailagor y llinellau rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin a rhwng Bangor a Chaernarfon.