English icon English

Mwy na £680 miliwn yn cyrraedd busnesau ar gyfer cymorth Covid-19

More than £680m reaches businesses in Covid-19 support

Mae grantiau cymorth busnes gwerth dros £680 miliwn wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru i helpu iddynt ymateb i heriau ariannol Covid-19, yn ôl cyhoeddiad gan Weinidogion.

Mae’r ffigurau diweddaraf sydd allan heddiw yn dangos bod dros 56,000 o grantiau wedi’u talu i gwmnïau ar draws y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd ag eiddo â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai.  Mae eu busnesau hefyd yn elwa o ryddhad ardrethi drwy’r pecyn gwerth £1.4 biliwn a gyhoeddwyd ym mis Mawrth.    

Bydd ceisiadau newydd i’r cynllun yn cau ar 30 Mehefin, ac mae Gweinidogion yn annog unrhyw fusnesau sydd heb wneud hynny eisoes, i gysylltu â’u hawdurdod lleol ynghylch y cymorth hwn.   

Meddai’r Rebecca Evans y Gweinidog Cyllid:

“Rydym yn deall bod busnesau wedi dioddef llawer gan effaith y pandemig, ac rydym wedi gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod busnesau yn gallu derbyn yr arian brys y maent ei angen cyn gynted â phosibl.   

“Roedd yn her, ond diolch i ymdrechion di-flino awdurdodau lleol a CLlLC wrth weinyddu’r grantiau hyn, mae degau o filoedd o fusnesau ledled Cymru eisoes yn elwa o’r cymorth hwn y maent ei angen yn fawr.” 

Ychwanegodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:   

“Ein pecyn o gymorth busnes yw’r un mwyaf cynhwysfawr a hael yn y DU, gan roi sicrwydd i’r miloedd o gwmnïau ledled Cymru mewn cyfnod y mae angen mawr amdano.   

“Gwnaethom ymrwymiad i gael arian allan i fusnesau cyn gynted â phosibl, ac mae awdurdodau lleol wedi chwarae rhan allweddol yn sicrhau bod cannoedd o filiynau o bunnoedd wedi eu cyrraedd. 

“Rydym yn parhau i wneud popeth y gallwn i sicrhau bod busnes da yn 2019, yn fusnes da yn 2021.”

Meddai y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC:

"Dwi’n hynod ddiolchgar i’r gweithwyr niferus yn ein cynghorau ym mhob rhan o Gymru sydd wedi gweithredu’n gyflym i wneud yn siŵr bod y cymorth hollbwysig yn mynd i ble mae ei angen. 

"Mae’r swm anhygoel o arian sydd wedi ei roi i fusnesau hyd yma yn dangos pa mor fawr yw’r argyfwng. Mae wedi achub miloedd o fusnesau mewn cyfnod anodd iawn.  Hoffwn annog unrhyw gwmnïau sy’n gymwys ar gyfer y cynllun i wneud cais cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr nad ydynt yn colli’r cyfle hwn.”