English icon English
FM Presser Camera 2

Prif Weinidogion yn ysgrifennu at Brif Weinidog Prydain ynghylch y cyfnod pontio Brexit

First Ministers write to PM on Brexit transition

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford a Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Prydain i ofyn am estyn y cyfnod pontio Brexit er mwyn gallu cwblhau’r trafodaethau a chynorthwyo busnesau wrth iddynt adfer ar ôl COVID.

Mae’r llythyr ar y cyd yn pwysleisio bod estyniad yn hanfodol er mwyn osgoi niwed diangen i’n heconomi ar adeg pan fo’r coronafeirws yn taro busnesau sydd ar eu mwyaf bregus.

Disgwylir i'r cyfnod pontio ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020 ond gellir ei estyn drwy gytundeb cyn belled â bod penderfyniad yn cael ei wneud erbyn 1 Gorffennaf.

Dywedodd y Prif Weinidogion:

"Heb estyniad i'r cyfnod pontio, ar ei orau bydd gennym gytundeb masnach elfennol, niweidiol yn unig neu, hyd yn oed yn waeth, Brexit heb gytundeb a fyddai’n drychinebus. Rydym yn ymwybodol nad yw’r Cytundeb Ymadael ond yn caniatáu estyniad i'r cyfnod pontio os cafwyd cytundeb ar hynny cyn diwedd mis Mehefin.

"Pan gafodd y Cytundeb Ymadael ei lofnodi, ni allai neb fod wedi dychmygu'r rhwyg economaidd enfawr y mae’r pandemig Covid 19 wedi'i achosi – yng Nghymru, yn yr Alban, yn y DU gyfan, yn yr UE ac ar draws y byd.

"Er ein bod yn gobeithio y byddwn yn dechrau gweld adferiad yn ail hanner y flwyddyn hon, rydym yn credu y byddai ymadael â’r cyfnod pontio ar ddiwedd y flwyddyn yn hynod fyrbwyll. Byddai'n creu ysgytwad economaidd a chymdeithasol sylweddol iawn arall ar ben yr argyfwng COVID-19, gan daro busnesau y mae eu cronfeydd wrth gefn, mewn llawer achos, eisoes wedi'u dihysbyddu, gan arwain at fwy o gau busnesau a diswyddiadau. Ond yn yr achos hwn, byddai’r ysgytwad yn un yr oedd modd ei osgoi.

"Ni allai neb feirniadu Llywodraeth y DU am newid ei safbwynt yng ngoleuni’r argyfwng Covid yr oedd yn gwbl amhosibl ei ragweld, yn enwedig gan fod yr UE wedi datgan yn glir ei fod yn agored i gais am estyniad. Rydym yn galw arnoch felly i achub ar y cyfle olaf hwn yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf i ofyn am estyniad i'r cyfnod pontio er mwyn darparu amser i gwblhau'r trafodaethau, i roi'r canlyniad ar waith, ac i roi’r cyfle i'n busnesau ddod i drefn ar ôl y tarfu enfawr a fu arnynt dros y misoedd diwethaf."