English icon English
Paramedic with defibrillator

Gofal critigol ar gyfer y coronafeirws mewn niferoedd

Wales' critical care for coronavirus in numbers

Mae gofal critigol wedi chwarae rhan hanfodol – gan achub bywydau yn aml – wrth drin pobl sydd wedi bod yn ddifrifol wael ar ôl dal y coronafeirws yng Nghymru.

Mae staff y GIG sy’n gweithio mewn unedau gofal critigol mewn ysbytai ledled Cymru yn arbenigwyr yn eu maes, gan ddarparu gofal arbenigol rownd y cloc i bobl sâl iawn a phobl sydd wedi cael anafiadau.

Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru:

“Mae staff gofal critigol wedi bod yn trin perygl mwyaf y pandemig ac rydw i eisiau diolch iddyn nhw am eu hymdrechion eithriadol ac am y gofal maen nhw wedi’i roi – nid dim ond ym mrig y pandemig, ond bob dydd i’r holl bobl hynny yr oedd eu bywydau’n dibynnu arno.”

354

Nifer y gwelyau gofal critigol sydd ar gael yng Nghymru ar ddiwedd yr wythnos hon (Mai 19). Mae hyn yn cynnwys y capasiti gofal critigol ychwanegol sydd wedi’i greu i ymateb i bandemig y coronafeirws.

62%

O’n gwelyau gofal critigol yn wag ar hyn o bryd ac ar gael i’w defnyddio os oes angen ar ddiwedd yr wythnos hon (Mai 27).

42

Nifer y bobl sy’n cael eu trin mewn unedau gofal critigol ac sydd â’r coronafeirws. Nid oes gan fwyafrif y bobl sy’n cael eu trin mewn unedau gofal critigol y coronafeirws ar ddiwedd yr wythnos hon (Mai 27).

506

Nifer y bobl sydd wedi cael eu trin mewn unedau gofal critigol am y coronafeirws yng Nghymru ers dechrau’r pandemig ar ddiwedd yr wythnos hon (Mai 27).

Llai na 10%

O bobl sy’n cael eu derbyn i ysbyty gyda’r coronafeirws yn cael eu derbyn i ofal critigol. Ein hamcanestyniadau cychwynnol ar ddechrau’r pandemig oedd y byddai’r ffigur hwn yn llawer uwch.    

56

Cyfartaledd oedran y bobl â choronafeirws sy’n cael eu trin mewn unedau gofal critigol

75%

O’r bobl â’r coronafeirws sy’n cael eu hanfon i unedau gofal critigol yn cael eu rhoi ar beiriant anadlu mecanyddol o fewn y 24 awr cyntaf.

11 diwrnod

Faint o amser ar gyfartaledd mae rhywun â’r coronafeirws angen cymorth anadlu mewn unedau gofal critigol.

85%

O’r bobl â’r coronafeirws sydd angen cymorth anadlu mewn unedau gofal critigol wedi cael cymorth uwch a 44% wedi cael cymorth anadlu sylfaenol.

Bron 5,500

Nifer y bobl sydd wedi cael eu rhyddhau o ysbyty, gan gynnwys gofal critigol, ar ôl derbyn triniaeth ar gyfer y coronafeirws ers dechrau’r pandemig.