English icon English

Gorchuddion wyneb tair haen yn cael eu hargymell, ond ddim yn orfodol, mewn rhai sefyllfaoedd yng Nghymru

Three-layer face coverings recommended, but not mandatory, in certain situations in Wales

Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd ac yn argymell y dylai pobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol.

Mae'r dystiolaeth yn glir mai cadw pellter o 2 fetr a sicrhau hylendid dwylo da yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu eich hun ac eraill rhag dal coronafeirws, ond mae’r canllawiau diweddaraf gan Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud y gallai gorchuddion wyneb tair haen helpu i reoli’r feirws mewn rhai amgylchiadau.

Mae’r cyngor diweddaraf hwn yn berthnasol dim ond i bobl nad oes ganddynt symptomau coronafeirws. Mae’n rhaid i bobl â symptomau hunanynysu am saith diwrnod a chael prawf, fel y nodwyd yn y canllawiau presennol. Oni bai bod prawf yn dangos canlyniad negatif, ni ddylent fynd allan yn ystod y cyfnod hwn, dim hyd yn oed os ydynt yn gwisgo gorchudd wyneb neu fasg.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “Golchi’ch dwylo, osgoi cyffwrdd eich wyneb a chadw pellter o 2 fetr oddi wrth eraill yw’r ffordd orau o atal lledaeniad y feirws.

“Ddydd Gwener, diweddarodd Sefydliad Iechyd y Byd eu canllawiau ar orchuddion wyneb, gan gynghori y dylid ystyried eu gwisgo mewn lleoliadau lle mae’n anodd cadw pellter cymdeithasol. Ond hoffwn bwysleisio nad yw gwisgo gorchudd wyneb yn dileu’r angen i gadw pellter cymdeithasol a golchi’ch dwylo yn rheolaidd.

“Mae angen tystiolaeth wyddonol bellach ar fanteision gorchuddion wyneb i’r cyhoedd. Ond hyd yma mae canfyddiadau arsylwadol yn awgrymu y gall gorchuddion wyneb tair haen, sy’n cael eu prynu neu eu gwneud gartref, atal trosglwyddiad haint o un person i berson arall os yw’r gorchuddion hyn yn cael eu gwneud, eu gwisgo, eu trin a’u gwaredu yn briodol.

“Felly rydym yn argymell y dylai pobl Cymru wisgo gorchuddion wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle gall fod yn anoddach cadw pellter cymdeithasol, fel ar gludiant cyhoeddus. Nid ydym yn argymell eu defnyddio yn yr awyr agored.

“Ni fydd yn orfodol i bobl wisgo gorchuddion wyneb, ond rydym yn eu hannog i wneud hyn er eu lles eu hunain ac eraill.”

Pwysleisiodd y Gweinidog mai dim ond i bobl nad oes ganddynt symptomau coronafeirws y mae’r cyngor hwn yn berthnasol, gan ychwanegu: “Mae’n rhaid i unrhyw un sydd â thymheredd uchel, peswch newydd, cyson, neu sydd wedi colli eu gallu i arogli neu flasu, neu wedi gweld newid yn yr ymdeimlad hwnnw, hunanynysu am o leiaf saith diwrnod a chael prawf cyn gynted â phosibl. Oni bai bod prawf yn dangos canlyniad negatif, ni ddylent fynd allan yn ystod y cyfnod hwn, dim hyd yn oed os ydynt yn gwisgo gorchudd wyneb neu fasg.”

Nodiadau i olygyddion

To provide any protection to others, face coverings need to be made, worn, handled and disposed of in a certain way.

The WHO recommends a minimum of three layers in a face covering, which should include:

  • An inner layer of absorbent material, such as cotton
  • A middle layer of non-woven material, such as polypropylene
  • An outer layer of non-absorbent material, such as polyester or polyester-blend