English icon English
child in window monochrome-2

Gweinidogion yn galw ar gymdogion a chymunedau i gadw eu llygaid a'u clustiau ar agor am blant ac oedolion sy'n cael eu cam-drin

Ministers call on neighbours and communities to act as eyes and ears for child and adult victims of abuse

Mae'r cyfyngiadau symud yn gwneud bywyd yn fwy anodd i'r rheini sy'n dioddef camdriniaeth, yn oedolion a phlant. Gall ynysu ganiatáu i gamdrinwyr gael mwy o bŵer dros ddioddefwyr, boed drwy drais, esgeulustod neu gamdriniaeth emosiynol. 

Mae gwasanaethau arbenigol ar gael i helpu'r rheini sy'n dioddef niwed, camdriniaeth neu esgeulustod yn ystod pandemig Covid-19, ac mae plant a rhieni sydd mewn perygl yn cael blaenoriaeth o ran gwasanaethau.

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

"Gwyddom y gall gorfodi pobl i hunan ynysu gael ei ddefnyddio fel erfyn i reoli trwy orfodaeth neu fel esgus i fod yn dreisgar. Mae'r cyfyngiadau symud hefyd yn ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i rywun i droi atynt am help.

"O dan y cyfyngiadau symud, nid yw'r mannau arferol y gellir dianc iddynt - yr ysgol, cartrefi ffrindiau, canolfannau ieuenctid, colegau a phrifysgolion, a gweithleoedd - ar gael. Gall fod yn anodd i ddioddefwyr gael help, ond mae’r gwasanaethau arbenigol ar agor ac yn barod i gynnig cymorth.

"Hoffwn roi sicrwydd i ddioddefwyr nad ydynt ar eu pennau eu hunain. Mae help ar gael, ac rwy'n eich annog i fanteisio arno os ydych yn gallu gwneud hynny. Mae’r gwasanaethau arbenigol ar agor ac yn barod i'ch cefnogi.

"Rwyf hefyd eisiau galw ar ffrindiau, cymdogion, gweithwyr post, gyrwyr faniau dosbarthu a chymunedau i gadw eu llygaid a'u clustiau ar agor am unigolion sy'n dioddef camdriniaeth ac sydd angen help, ond nad ydynt yn gallu gofyn amdano am fod y rheini sy'n eu cam-drin yn cadw llygaid barcud arnynt.

"Mae'n hollbwysig i'ch diogelwch chi a'r dioddefwyr nad ydych yn ymyrryd eich hun, ond mae llawer iawn o gymorth ar gael a gallwch helpu drwy ffonio 999 mewn argyfwng neu gysylltu â Byw Heb Ofn (manylion cyswllt isod) neu'r gwasanaethau arbenigol a restrir.

"Gall yr arwyddion bod camdriniaeth yn digwydd gynnwys gweiddi parhaus, sŵn pethau'n cael eu taro, eu malurio neu eu torri, a sŵn rhywun yn crio neu'n erfyn ar rywun i stopio. Efallai y bydd gan ddioddefwyr friwiau neu gleisiau, eu bod yn edrych wedi drysu neu'n anniben, neu eu bod yn orbryderus neu'n encilgar.

"Os ydych yn amau bod rhywun, yn blentyn neu'n oedolion, yn dioddef camdriniaeth, niwed, esgeulustod, aflonyddu, rheolaeth, trais corfforol neu gamdriniaeth emosiynol gan aelod o'r teulu neu bartner, ffoniwch yr heddlu os yw'n argyfwng, neu chwiliwch am gymorth ar wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer rhoi gwybod am amheuaeth o gam-drin, niwed, neu esgeulustod yma. Fe allech achub bywyd rhywun."

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Rwyf am anfon neges glir: mae'r gwasanaethau cymdeithasol, y timau arbenigol a'r sefydliadau trydydd sector yng Nghymru yn dal i fod ar agor ac yn gweithio'n galed i helpu unrhyw un sydd angen cymorth.

"Rydym yn gofyn i bawb gadw golwg am unrhyw arwyddion y gall fod plant neu oedolion yn eu cymuned sydd mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Adroddwch unrhyw bryderon sydd gennych - gallai wneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun.

"Mae ein gwasanaethau yma i'ch helpu chi, eich teulu a'ch cymuned hefyd - peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth."