English icon English

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi cronfa o £750,000 ar gyfer ymchwil i for-lynnoedd llanw

First Minister announces £750,000 fund for tidal lagoon research

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi £750,000 ar gyfer y Gronfa Her Mor-lynnoedd Llanw.

Bydd yr arian yn cael ei neilltuo i dri phrosiect ymchwil i dechnoleg mor-lynnoedd llanw dros ddwy flynedd.

Bydd yr ymchwil yn edrych ar y rhwystrau sy’n arafu datblygiad y dechnoleg ac ar fanteision y dechnoleg i Gymru.

Bydd y gwaith yn hwb ar gyfer datblygu morlyn llanw yn nyfroedd Cymru.

Bydd y Prif Weinidog yn gwneud y cyhoeddiad yng Nghynhadledd Ynni Môr Cymru yn Abertawe.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Ein huchelgais yw gwneud Cymru’n ganolfan i’r byd ar gyfer technoleg y llanw.

“Ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain.  Rhaid gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant i greu’r amgylchedd busnes iawn i’r sector allu ffynnu.

“Bydd yr ymchwil yn gyfraniad pwysig at ddod â phrosiect morlyn llanw i Gymru yn y dyfodol ac at symud y sector cyfan yn ei flaen.”

Gorsaf bŵer yw morlyn llanw sy’n cynhyrchu trydan trwy godiad a chwymp naturiol y llanw.

Adeiledir strwythur i ddal swm mawr o ddŵr ac yna gollyngir y dŵr i yrru tyrbinau a chynhyrchu trydan.

Mae ynni’r llanw yn gwbl adnewyddadwy, does dim angen tanwydd ac yn wahanol i fathau eraill o ynni adnewyddadwy, mae’n gwbl ragweladwy.

Mae’r Tidal Range Alliance yn grŵp o ddatblygwyr, cwmnïau a’r gadwyn gyflenwi sy’n gysylltiedig â phrosiectau ynni mor-lynnoedd llanw yn y DU a thu hwnt.

Meddai Ioan Jenkins, cadeirydd y Tidal Range Alliance,

“Mae’r Tidal Range Alliance yn falch bod Llywodraeth Cymru’n dal yn ymrwymedig i ynni amrediad y llanw ac i sicrhau bod y dechnoleg hanfodol hon yn cynhyrchu pŵer adnewyddadwy dibynadwy, yn ogystal â dod â swyddi a buddsoddiad i Gymru a’r DU.

“Mae’r dechnoleg eisoes wedi cael ei phrofi ar raddfa fawr a bydd yr ymchwil hon yn helpu i ddarparu’r dystiolaeth fydd yn sbardun i’r don gyntaf o brosiectau amrediad y llanw, yma yng Nghymru.”