English icon English

Lleihau llygredd afonydd drwy gynllun gweithredu newydd a gytunwyd mewn uwchgynhadledd o dan arweiniad Llywodraeth Cymru

Reducing river pollution through new action plan agreed at Welsh Government-led summit

"Rydym yn lywodraeth sydd wedi ymrwymo i'n hafonydd."

Dyna oedd geiriau'r Prif Weinidog Mark Drakeford wrth iddo gadarnhau manylion cynllun gweithredu newydd a gytunwyd yn yr Uwch-gynhadledd Llygredd Afonydd ddiweddaraf.

Daeth yr uwchgynhadledd, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddydd Mercher, 8 Mawrth, ag uwch-gynrychiolwyr ymhlith rheoleiddwyr, cwmnïau dŵr, datblygwyr, llywodraeth leol, undebau amaeth, y sectorau academaidd ac amgylcheddol at ei gilydd.

Y nod oedd datblygu dull 'strategol, cydgysylltiedig o fynd i'r afael â llygredd ffosfforws' ac ar ôl ychydig oriau, cytunodd yr holl sefydliadau i weithio ar gynllun gweithredu newydd.

Meddai y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Fe ddywedon ni y bydden ni'n dod â phobl at ei gilydd ac fe wnaethon ni ddod â phobl at ei gilydd; Fe ddywedon ni y bydden ni'n datblygu cynllun gweithredu ac rydyn ni wedi datblygu cynllun gweithredu - rydyn ni'n llywodraeth sydd wedi ymrwymo i'n hafonydd.

"Yn yr uwchgynhadledd eleni, buom yn trafod yr angen i allu symud yn gyflym a gweithredu’n gynt, i ddileu unrhyw gymhlethdod diangen a darparu sicrwydd a negeseuon cyson ar draws yr ystod o heriau.

"Mae angen i ni gyflwyno, yn gyflym, fesurau lliniaru i gefnogi datblygiad cynaliadwy nawr gan hefyd sicrhau'r buddsoddiad tymor hwy i adfer ein hafonydd."

Mae gan Lleihau Pwysau ar Ddalgylchoedd Afonydd SAC i Helpu i Gyflenwi Tai Fforddiadwy sawl thema allweddol:

  • yr angen am ddull cydgysylltiedig a threfniadau llywodraethu i gefnogi gwneud penderfyniadau mewn afonydd SAC sy’n methu;
  • yr angen i ddefnyddio atebion naturiol yn fwy effeithiol;
  • yr angen i weithio'n adeiladol gyda'r sector amaethyddol i ganfod atebion i leihau a mynd i'r afael â gormod o faetholion ym mhridd ac afonydd SAC Cymru;
  • darparu atebion tymor byr i fynd i'r afael â'r cyfyngiadau cynllunio presennol;
  • datblygu cyfrifiannell faetholion i gynorthwyo gyda penderfyniadau cynllunio ar niwtraliaeth maetholion a fydd â'r gallu i ystyried data lefel dalgylch, nodweddion ac anghenion lleol;
  • rhoi eglurder i bartneriaid ar weithredoedd lliniaru posibl ac ymyriadau i leihau llygredd;
  • dull unedig o ganiatáu dalgylch mewn afonydd SAC sy’n methu; a
  • cynyddu ein dealltwriaeth o fesurau ymarferol o fewn dalgylchoedd y gellid eu darparu drwy Fasnachu Maetholion.

Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Rwy'n hyderus y bydd cyflawni'r camau a nodwyd yn caniatáu datblygu tai yn nalgylchoedd afonydd SAC yr effeithir arnynt i ailgychwyn. 

"Does dim un mesur fydd yn datrys y broblem hon a bydd hyd yn oed nifer o fesurau yn cymryd amser i ddadwneud niwed cronnus y gorffennol.

"Dim ond drwy gyfuno gweithredoedd pob sector y gallwn fynd i'r afael â nifer o risgiau sy’n cael effaith ar ein llynnoedd, afonydd a'n nentydd a sicrhau gwelliannau gwirioneddol i ansawdd ein dyfrffyrdd.

"Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth gymryd rhan yn yr uwchgynhadledd - mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran gwella ansawdd dŵr yn ein hafonydd a lleihau llygredd ffosfforws."

DIWEDD